Ethol Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026

Dr Manon Wyn Williams o Dalwrn sydd wedi’i hethol

Y Glorian
gan Y Glorian
IMG_2464

Daw Dr Manon Wyn Williams o Rosmeirch yn wreiddiol

Llongyfarchiadau i Dr Manon Wyn Williams, Talwrn, ar gael ei hethol yn Gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026. Yn wreiddiol o Rosmeirch, mae Manon bellach yn darlithio yn Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.

Etholwyd y canlynol yn Is-gadeiryddion: Medwyn Roberts, Mari Ann Evans, Derek Evans, Eirian Stephen Jones a Llinos Medi Huws. Etholwyd Fiona Hughes, Brynrefail, yn Ysgrifennydd y Pwyllgor Gwaith a Greta Stuart yn Is-ysgrifennydd. Etholwyd Rhys Parry yn Drysorydd.

Bydd y blynyddoedd nesaf yn rhai prysur i chi gyd – pob hwyl a rhwyddineb yn y gwaith!