Urddo saith i Orsedd Beirdd Môn

Cawsant eu hurddo am eu cyfraniad i’r Gymraeg ym Môn

Llifon Jones
gan Llifon Jones
IMG_3620

Llun: Nia Thomas

Yn Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Môn Bro Seiriol 2025 ym Miwmares ar ddydd Sadwrn 11 Mai, cafodd saith eu derbyn yn aelodau o Orsedd y Beirdd Môn.

Y saith oedd:

  1. Cai Fôn Davies – er bellach yn byw ym Mangor, mae gwreiddiau Cai yn Nhalwrn. Mae wedi cystadlu mewn eisteddfodau ers yn fachgen bach ac mae dal i gystadlu a dal i gael llwyddiant yn yr Urdd a’r Genedlaethol.
  2. Bethan Elin Owen – mae Bethan, sy’n wreiddiol o Drefor, hefyd wedi bod yn wyneb cyfarwydd mewn eisteddfodau mawr a bach ac wedi cael llwyddiant wrth ganu ac adrodd.
  3. Gwilym Jones – mae Gwilym wedi gwasanaethu llywodraeth leol ers bron i 40 mlynedd, gan wasanaethu ardal y Fali a Chrigyll yn benodol. Wedi treulio rhan fwyaf o’i oes yn byw’n Caergeiliog.
  4. Bob Parry – mae Bob yntau wedi bod yn ymwneud â llywodraeth leol a hefyd Undeb Amaethwyr Cymru am dros hanner canrif. Yn cael ei gysylltu’n bennaf â fferm Treban Meurig, Bryngwran, mae bellach wedi ymgartrefu ym Modffordd.
  5. Elain Rhys – mae Elain yn gerddorol ddawnus ac yn gyfeilydd a thelynores fedrus. Yn wreiddiol o Fodedern, mae bellach yn byw’n Llanfairpwll ac yn cyfeilio i Gôr Ieuenctid Môn a Chôr Esceifiog.
  6. Mererid Richards – yn wreiddiol o Ddinas Mawddwy, mae Mererid bellach yn byw ym Modedern. Yn weithgar hefo’r Ffermwyr Ifanc, fe wnaeth hi hefyd helpu drefnu Eisteddfod Môn Gŵyl y Llys 2023.
  7. Alison Roberts – yn wreiddiol o’r Alban, mae Alison wedi dysgu Cymraeg ar ôl cyfarfod Siôn Roberts, Tryfil, Llannerchymedd. Yn fam i saith o blant, hi wnaeth ennill Gwobr Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023.

Llongyfarchiadau mawr iddyn nhw!