Hanes a chyfrinachau’r gorffennol yn cysylltu cenedlaethau

Hwb i gynllun lleol gan y Loteri Genedlaethol yn ystod wythnos pontio’r cenedlaethau

gan Llinos Iorwerth

Rhoi hanes a straeon lleol ar gof a chadw drwy gysylltu phobl ifanc gyda’r to hŷn – dyma nod cynllun sy’n cael ei lansio yng Ngwynedd a Môn heddiw i gyd fynd â Wythnos Ryngwladol Pontio’r Cenedlaethau.

Yn brosiect Menter Môn, daeth ‘Ein Hanes Ni’ i’r amlwg am y tro cyntaf yn Llannerchymedd diolch i gynllun peilot mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ynys Môn. Cafodd plant lleol gyfle i gasglu a recordio hanes yr ardal mewn sgyrsiau gyda phobl hŷn am eu hatgofion am y pentref. Bellach, gyda chymorth o £250,000 o gronfa ‘Pawb a’i Le’ y Loteri Genedlaethol mae’r cynllun yn cael ei ymestyn i gymunedau ar draws y ddwy sir.

Bydd yr arian newydd yn cefnogi Ein Hanes Ni i gyflawni ei nod o gysylltu cenedlaethau gyda’i gilydd a’u cymunedau, gan roi llwyfan i drigolion rannu straeon, newidiadau a hyd yn oed cyfrinachau o fewn eu broydd. Gan roi cyfle i blant a phobol ifanc greu perthnasau newydd gyda chenedlaethau hŷn, bydd pob cymuned yn creu adnoddau digidol a phrint er mwyn cofnodi’r hanes sydd wedi ei gasglu.

Meddai Aaron Morris sy’n arwain ar y cynllun fel swyddog prosiect Menter Môn: “Mae hwn yn gyfle arbennig i bobl berchnogi eu hanes a sicrhau cofnod digidol ohono – cynnwys na fyddai o reidrwydd yn cael ei ddarganfod mewn llyfrau, archifdai, gwaith academaidd nac ar y we.

“Pobl sydd wrth wraidd yr hyn rydyn ni yn geisio ei gyflawni gyda Ein Hanes Ni. Cadw a chofnodi hanesion a straeon unigolion – o’r tirwedd i enwau adeiladau, natur a bwrlwm y strydoedd, i’r iaith. Drwy ffilmio sgyrsiau rhwng aelodau hŷn a iau cymuned, mae’n gyfle i feithrin a dysgu yr un pryd, a dangos gwerth y genhedlaeth hŷn a’r ardal o’u cwmpas i blant a phobl ifanc.”

 

Bydd 24 o gymunedau ar draws Môn a Gwynedd yn cael cyfle i gymryd rhan ac yn gobeithio efelychu llwyddiant blaenorol Ein Hanes Ni ym Môn.

Ychwanegodd Catrin Jones, Rheolwr Iaith a Chymuned  Menter Môn : “Rydym wrth ein bodd bod Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi cydnabod ein gwaith fel hyn. Roedd adborth o’r cynllun gwreiddiol yn wych, llawer ohono’n emosiynol, gyda straeon yn cael eu rhannu ym mhell ac agos diolch i gynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol. Y gobaith rŵan gyda’r hwb diweddaraf yma ydi helpu mwy o bobl i  hel atgofion ac i ddysgu am yr hyn sy’n gwneud eu hardal nhw’n unigryw.”

Daw’r hwb diweddaraf yma mewn pryd i ddathlu Wythnos Ryngwladol Pontio’r Cenedlaethau 2024, sy’n ymgyrch fyd-eang i annog pawb i ymwneud  a datblygu cyfeillgarwch a rhwydweithiau rhyng-genhedlaeth. Trwy’r prosiect bydd Menter Môn yn cydweithio gyda’r oedolion i ymchwilio a threfnu digwyddiadau cyn ymgysylltu a ffilmio gyda’r plant. Yn ogystal â chofnodi hanes lleol y gobaith yw bod y prosiect yn galluogi pobl i ddatblygu sgiliau gwirfoddoli hefyd, yn ehangu cysylltiadau ac yn datblygu rhai o’r themâu sydd o bwys i’w cymuned nhw.

Llun: Ein Hanes Ni yn Llannerchymedd a Llanddeusant

Dweud eich dweud