Corau o Fôn yn yr Ŵyl Ban Geltaidd

Buddugoliaethau i Gôr Esceifiog yn Carlow eleni.

gan Peredur Glyn
Côr Esceifiog yn perfformio yng Ngŵyl Ban Geltaidd 2024 yn Carlow.Gwyl Ban Geltaidd 2024

Côr Esceifiog yn perfformio yn eglwys Gadeiriol Carlow yn yr Iwerddon ar nos Wener yr Ŵyl Ban Geltaidd.

Hogia'r Ddwylan yn perfformio yn yr Ŵyl Ban Geltaidd

Hogia’r Ddwylan yn canu yng Nghadeirlan Carlow ar nos Wener yr Ŵyl Ban Geltaidd

Mae’r Ŵyl Ban Geltaidd yn denu corau o Gymru yn flynyddol, heb sôn am gynrychiolaeth o wledydd Celtaidd eraill. O Fôn eleni aeth Côr Esceifiog a Hogia’r Ddwylan draw i gystadlu a chynrychioli’r Ynys.

Yn Carlow (Ceatharlach) yn Iwerddon oedd yr Ŵyl a hynny am yr ail flwyddyn yn olynol. Mae Carlow yn dref brydferth mewn ardal lle mae tua traean o’r boblogaeth yn siarad Gwyddeleg.

Cystadlodd Hogia’r Ddwylan, o dan arweiniad Endaf ap Ieuan, yn y gystadleuaeth côr agored. Canasant Y DarlunGwinllan a Roddwyd ac roedd mawr fwynhad gan y gynilleidfa a ddaeth i’r ysgol uwchradd ar y dydd Sadwrn i wylio’r cystadlu.

Cystadlodd Côr Esceifiog, o dan arweiniad Catrin Angharad Jones, mewn tair cystadleuaeth gorawl a chystadlodd Hogia Llanbobman – sef dynion Côr Esceifiog – yn y categori corau meibion hefyd. Canasant nifer o alawon gwerin digyfeiliant, y mwyafrif wedi eu trefnu gan Catrin, ac yn y gystadleuaeth corau agored canasant Am Brydferthwch Daear Lawr a Cantata Domino gyda chyfeiliant oddi wrth Elain Rhys.

Dyfarnodd y beirniaid Gôr Esceifiog yn fuddugol yng nghystadlaethau’r côr agored a’r côr ‘gwledig’, ac Hogia Llanbobman oedd y côr meibion buddugol wrth ganu Harbwr Corc a Clychau Cantre’r Gwaelod.

Cafodd Côr Esceifiog hefyd y wobr am y perfformiad corawl gorau yn ystod y diwrnod. Rhoesant berfformiad ychwanegol i’r dorf a ymgasglodd yn y Seven Oaks ar y nos Sadwrn er mwyn clywed yr holl ddyfarniadau.

Yn ogystal a’r cystadlu bu cyngerdd yn y Gadeirlan Gatholig ar y nos Wener lle cafwyd darn gan bob côr. Hefyd roedd ‘cyngerdd y Cymry’ yng ngwesty’r Seven Oaks ar yr un noson, gyda pherfformiadau gan gorau, bandiau, cantorion (gan gynnwys Dewi Pws) a dawnswyr Cymreig.

Roedd llawer o adloniant Celtaidd i’w fwynhau ar draws Carlow, yn enwedig yn y tafarndai. Cafwyd llawer o hwyl gan yr holl Gymry oedd wedi teithio i’r Ŵyl a digonedd o godi canu tan oriau mân y bore!

Wrth lwc, er bod Storm Kathleen yn bygwth tarfu ar y fordaith rhwng Caergybi a Dulyn, cafwyd siwrnai ddiogel yn ôl i aelodau (blinedig) y ddau gôr.

Roedd hi’n Ŵyl lwyddiannus i Fôn. Mae’r Ŵyl Ban Geltaidd yn gyfle nid yn unig i arddangos holl dalentau Ynys Môn a Chymru ben baladr, ond hefyd i ddathlu’r brawdoliaeth sydd rhwng aelodau’r gwledydd Celtaidd.

Dweud eich dweud