“Mae angen gwarchod y theatr amatur yng Nghymru” – dyna oedd cri beirniaid Gŵyl Ddrama Eisteddfod Môn Bro Alaw eleni a gynhaliwyd ar ddydd Sadwrn 4 Mai yn Ysgol Uwchradd Bodedern. Y beirniaid oedd yr actor Huw Garmon ac un o gyfarwyddwr Theatr Clwyd, Emyr John.
Cafwyd cystadlu gwych rhwng 3pm a 10.30pm, gyda’r Fedal Ddrama yn mynd i Glenys Davies o Lanrwst a Thlws Audrey Mechell am y cwmni gorau yn mynd i Glwb Ffermwyr Ifanc Rhosybol. Llywydd yr ŵyl oedd Ian Selwyn Lloyd, athro Drama cyntaf Ysgol Uwchradd Bodedern ar ddiwedd y 1970au.
Ar ddiwedd y noson, fe apeliodd y ddau feirniaid ar i’r ŵyl ddrama barhau gan fod gwyliau o’r fath yn brentisiaeth wych i actorion ifanc a dramodwyr hefyd. Gwelwyd doniau’r dyfodol yn sicr ar lwyfan Boded eleni.
Dyma’r canlyniadau’n llawn:
Y Fedal Ddrama
1. Glenys Davies, Llanrwst
2. Gerwyn James, Llanfairpwll
3. Catrin Jones Hughes, Gaerwen
Cyfansoddi Drama – Ieuenctid
1. Non Dafydd – Ysgol Dyffryn Conwy
2. Begw Dafydd – Ysgol Dyffryn Conwy
3. Leusa Davies – Ysgol Dyffryn Conwy
Cyfansoddi Monolog – Oedran Ysgolion Uwchradd
1. Elliw Non Hughes- Ysgol Uwchradd Bodedern
2. Deio Edwards – Ysgol Dyffryn Conwy
3. Maggi Morris – Ysgol Dyffryn Conwy
Monolog Bl 7,8 a 9
1. Begw Roberts
2. Lleu Ifan; Sara Williams
3. Non Dafydd; Lowri Llewelyn
Monolog Bl 10
1. Mai Owen
2. Morgan Jones
Perfformiad Theatrig i grŵp Bl 6 ac iau
1. Lal, Ioan ac Erin; Lliwen, Annie ac Alaw
2. Casey, Erin a Glesni
3. Elliw, Lacey ac Amiee
Perfformiad Theatrig i grŵp Bl 7, 8 a 9
1. Cari a Efa Uwch Adran
Perfformiad Theatrig i grŵp Bl 10
1. Enlli, Ynyr a Morgan Uwch Adran
Ysgoloriaeth 18 i 24 oed
1. Ania Moore
2. Ceuron Parry
Perfformio Drama Fer – Agored
1. Clwb Ffermwyr Ifanc Rhosybol
2. Cwmni Licrys Olsorts, Aberystwyth
Actor Mwyaf Addawol (Tlws Coffa Owen Huw Roberts)
Mai Owen, Llanerchymedd
Perfformiad mewn cymeriad
1. Mai Owen