Argraffydd newydd i wella gofal cleifion ifanc Ysbyty Gwynedd

Cyfraniad gan fusnes lleol yn galluogi gwirfoddolwyr i gynnal gweithgareddau

gan Llinos Iorwerth
Bethan Hughes

Gwirfoddolwr Robin yn Ysbyty Gwynedd

Yn gyfraniad gan fusnes lleol, mae’r peiriant newydd wedi galluogi gwirfoddolwyr i gynnal gweithgareddau gyda’r plant, heb gymryd amser nag adnoddau oddi ar y staff feddygol.

Fel rhan o’u gwaith cymunedol mae R&J Hughes, cwmni ymgymerwyr angladdau o Langefni ac Amlwch, yn awyddus i wneud gwahaniaeth yn lleol ac yn dilyn sgwrs gyda gwirfoddolwr ar y ward plant, fe roddodd y cwmni argraffydd yn rhodd i’r ward.  Dywedodd Arwel Hughes, cyfarwyddwr y cwmni: “Mae bod yn rhan o’n cymuned a helpu ble gallwn ni yn rhan bwysig o’n gwerthoedd ni  fel cwmni. Roeddwn ni yn falch iawn o allu rhoi’r offer newydd i ward plant Ysbyty Gwynedd. Mae’r staff a gwirfoddolwyr yno yn gwneud gwaith arwrol ac yn aml mewn amgylchiadau anodd – mae cefnogaeth fel hyn yn ffordd fach o’u helpu nhw ac i roi yn ôl.”

Dywedodd Bethan Hughes, Gwirfoddolwr Robin y ward yn Ysbyty Gwynedd: “Mae’n anodd iawn ar lawer o’r cleifion ar y ward plant. Mae’r amser yn teimlo yn hir iddyn nhw yn enwedig y rhai iau. Mi fydd yr argraffydd newydd yma o help mawr i ni – gallwn rŵan gynnal gweithgareddau gyda’r plant heb gymryd amser nag adnoddau prin y staff yno. Mi fyddwn ni hefyd yn gallu defnyddio’r argraffydd i greu arddangosfa ar y wal efo posteri codi ymwybyddiaeth a gwybodaeth all helpu’r plant a phobl ifanc tra bod nhw efo ni.

“Mae pethau bach fel hyn mor bwysig ac yn gallu gwneud eu bywydau yma yn yr ysbyty yn haws. Ar ran pawb yma felly, rydw i am anfon neges o ddiolch i Arwel a’r tîm cyfan yn R&J Hughes.”

Mae’r cynllun Gwirfoddolwyr Robin yn gweithredu ar draws ysbytai gogledd Cymru. Maen nhw’n gyfeillion i’r cleifion, mae eu cyfrifoldebau yn amrywio ac yn cynnwys paratoi diodydd i gleifion, treulio amser efo nhw yn cael sgwrs neu helpu i ddarllen ac ysgrifennu. Mae’r gwasanaeth bob amser yn chwilio am fwy o bobl i ymuno yn y cynllun ac yn awyddus i wneud apêl am fwy o wirfoddolwyr.

Mae gwybodaeth ar sut i gymryd rhan a chofrestru ar wefan Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: Gwnewch gais i fod yn Robin – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

 

Diwedd

Am fwy o wybodaeth cysylltwch gydag Erin Thomas, Ateb 01248 565638/ erin@atebcymru.wales

Ffair Grefftau Nadolig Oriel Môn

18:00, 8 Tachwedd – 12:00, 24 Rhagfyr (AM DDIM)

SIOE AEAF MÔN 2024

09:00, 9 Tachwedd – 17:00, 10 Tachwedd (Tâl Mynediad - £5 / Plant dan 16 yn mynd i fewn am ddim / Aelodau CFfI 16 a throsodd £2 efo cerdyn aelodaeth)

Cwis

19:30, 22 Tachwedd

Cylchlythyr