Profion TB Gwartheg

A yw canllawiau profion TB gwartheg yn cyfyngu ar y niferoedd sy’n arddangos da mewn sioeau amaeth?

gan Catrin Angharad Jones

A yw canllawiau profion TB gwartheg yn cyfyngu ar y niferoedd sy’n arddangos eu hanifeiliaid mewn sioeau amaethyddol ar draws Cymru?

Gyda thymor y sioeau amaethyddol yn dirwyn i ben am yr haf, mae ffermwr gwartheg o Sir Fôn yn pryderu fod rheolau a chanllawiau profion Bovine Tuberculosis (TB) yn effeithio ar y niferoedd sy’n arddangos eu stoc yn eu sioeau amaethyddol lleol.

Mae Llŷr Hughes o Lanbabo, sy’n enw adnabyddus ym myd y gwartheg Limousin yn teimlo efallai nad ydyw mesurau digonol yn cael eu cymryd i hwyluso’r broses o brofi, ynysu, a gwarchod da pan mae’n dod i gystadlu mewn sioeau amaethyddol.

Wrth holi Mr Hughes os yw’n teimlo fod mesurau profion Bovine TB yn cyfyngu ar y niferoedd sy’n cystadlu mewn sioeau amaethyddol, ei ymateb oedd :-

“Gant y cant! Gawn ni edrych ar Sioe Llanelwedd fel man cychwyn. Fel ag y mae hi, mae arddangoswyr yn mynd i Lanelwedd i sioe sydd mewn ardal risg uchel TB, ac yn dilyn y sioe, rhaid dychwelyd yr anifeiliaid adra unai i Uned Gwarantin (Quarantine Unit) neu yn ôl at y fuches a hynny am 60 diwrnod. Rhaid cynnal prawf ôl-symud (post movement test) a hynny yn dilyn gwneud prawf cyn-symud (pre-movement test) cyn mynd am Lanelwedd.”

Cynnig addasiadau i hwyluso pethau?

Meddai Mr Hughes; ‘Be hoffwn i ei weld yn digwydd fyddai manteisio ar y cyfle i greu Sioe Llanelwedd ei hun yn Uned Gwarantin. 

Mae’r sioe wedi cael ei ‘ring-ffenshio’; ddaw na ddim anifeiliaid dros y ffens ‘na, i mewn nag allan.

Mae pob anifail yno wedi ei brofi am TB a BVD (Bovine Viral Diarrhoea) i’r un lefel. Mae nhw’r anifeiliaid glanaf yn y wlad. Yn ddelfrydol, byddai’r anifeiliad yn dychwelyd o ‘Uned Gwarantin’ Llanelwedd am adra i’r prif ddaliad ac at y fuches.

Byddai hynny wedyn yn eu galluogi i fynychu sioeau fel Sioe Môn sy’n digwydd cwta fis yn ddiweddarach.’

Pwysleisia Mr Hughes fod y gofynion cwarantin yn gwbl hanfodol yn enwedig pan fo angen symud anifeiliad o ardal risg uchel TB i ardal risg isel, ond dylid ystyried efallai mai nid pawb sy’n gallu fforddio creu Unedau Cwarantin adra.

Dyfodol sioeau bach amaethyddol

Y mae Mr Hughes yn ymfalchïo yn fawr yn sioeau amaethyddol niferus Cymru megis ei sioe leol yma ym Môn, ac y mae’n benderfynol o barhau i’w cefnogi doed a ddêl.

Credai fod y canllawiau profi a symud anifeiliaid a’r gofynion cwarantin yn eu lle i bwrpas ac nad oes unrhyw ffermwr yng Nghymru yn dymuno gweld lledaeniad yr haint o fuches i fuches, ond yng ngeiriau Mr Hughes;

‘Dewch i ni eistedd rownd y bwrdd a thrafod addasiadau bach megis creu Sioe Llanelwedd yn ‘Uned Gwarantin’ a fyddai wir yn hwyluso pethau i ni’r ffermwyr tra’n parhau i ddiogelu ein hanifeiliaid, a’n galluogi i gefnogi mwy o sioeau.’

Fel amaethwr brwd, mae’n credu’n gryf mae’r sioeau hyn yw’r platfform gorau i arddangos y brîd, cymdeithasu gyda chyfeillion o’r diwydiant, meithrin y berthynas rhwng y cyhoedd a’r ffermwyr ac addysgu am darddiad cigoedd lleol, a’u bod yn rhan allweddol o barhad y traddodiad cefn gwlad Cymreig. 

Dylid felly, yn ôl Mr Hughes, wneud popeth posib i hwyluso’r broses i ffermwyr er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus i sioeau amaethyddol Cymru.