Awen Jones yn dod i’r brig!

Enillydd 

gan Catrin Angharad Jones

Awen Jones yn dod i’r brig! 

Rydym falch o gyhoeddi mai enillydd cystadleuaeth dylunio logo Môn 360 yw Awen Haf Jones. 

Mae Awen Haf Jones yn ddisgybl brwdfrydig sydd newydd orffen astudio TGAU yn Ysgol Bodedern.  Mae hi wrth ei bodd gyda chelf ac yn cipio bob cyfle yn ei hamser sbâr i ddylunio. 

Fel dywedodd Awen y sbardun tu ôl i’w chynllun oedd yr enwog Melin Llynon. Trwy ei phlentyndod roedd yn le arbennig lle roedd ei Mam yn gweithio ac wrth ei bodd yn ymweld a’r lle.  Yn ogystal,  credai Awen ei fod yn gynrychiolaeth o leoliad hyfryd yn Sir Fôn ac roedd eisiau hi eisiau dangos harddwch yr ardal a chynrychioli hanes y diwylliant amaethyddol.

 

Credai Awen fod gwefan newydd i Fôn yn fantais  i’r trigolion  i rannu eu newyddion lleol a chodi ymwybyddiaeth o ein hardal leol ar gyfer ymwelwyr. 

Yn y dyfodol, mae Awen yn gobeithio astudio Celf yn y chweched dosbarth ac i barhau i roi pensil ar bapur.

Hoffai bawb ddiolch yn fawr i Awen am ei ddyluniad  a dymuno pob lwc iddi yn y dyfodol! Yn sicr, mae gen ti ddyfodol disglair iawn!