Ddechrau Hydref, fe gyhoeddodd Catrin Angharad Jones ei llyfr cyntaf i blant sef Ysgol Arswyd gyda gwasg Y Lolfa. Dyma lyfr arbennig sy’n cyflwyno cymeriadau brawychus ac arswydus Cymru i blant o dan 8 oed. Bwriad Catrin ydy Cymreigio’r ŵyl Americanaidd, Calan Gaeaf, gan addysgu plant am gymeriadau chwedlonol Cymru.
Does dim modd dianc bellach rhag dylanwad yr ŵyl hon ar Gymru, gydag ysgolion a theuluoedd yn ymuno yn y dathlu – boed yn ddisgo Calan Gaeaf, yn gystadleuaeth wisg ffansi neu’n cerfio pwmpenni yn y cartref. Ond gobeithia’r awdur y bydd y llyfr hwn yw atgoffa’r Cymry o fwystfilod ac ellyllon traddodiadol Cymreig gan roi sbardun trafodaeth newydd i athrawon a rhieni.
Ceir cymeriadau cyfarwydd yn y llyfr megis Aneira Fampeira, Ffranc Eistein a Crinc y Seiclops ond hefyd cawn ein cyflwyno i gymeriadau hollol Gymreig – Siwsi Swyn sy’n un o wrachod Llanddona, Heti yr Hwch Ddu Gwta, Huwcyn Cwsg, Mari Lwyd a Tegid sef bwystfil Llyn Tegid. O dan yr wyneb, mae neges bwysig hefyd sef ei bod hi’n iawn i fod yn wahanol i eraill.
Ysgrifennir y cyfan ar fydr ac odl sy’n cyfoethogi’r hiwmor ac yn gwneud y stori’n hawdd-i-ddarllen. Hefyd yn dod â’r cyfan yn fyw mae lluniau brawychus ond annwyl Sïan Angharad Jones – artist o Foelfre sydd bellach yn dylunio setiau teledu.
Gan fod Catrin yn gyn-athrawes, mae hi wedi creu amrywiaeth o dasgau i gyd-fynd â’r llyfr sy’n gweddu â meysydd dysgu y Cwricwlwm i Gymru yn ogystal â chyfansoddi cân er mwyn hyrwyddo’r llyfr ymhellach.
Dywedodd Catrin, “Breuddwyd yw cael cyhoeddi fy stori blant gyntaf a hynny dan adain un o’n cwmnïau cyhoeddi mwyaf blaenllaw. Mae gen i stôr o straeon ar fydr ag odl sy’n segur yn y cyfrifiadur ers blynyddoedd, felly pleser pur oedd gwylio’r gyntaf – Ysgol Arswyd – yn dod yn fyw trwy ddychymyg a thalent aruthrol Sïan Angharad y darlunydd. Gobeithio wir y bydd y darllenwyr bach yn dod i garu bwystfilod a bwganod Cymru cymaint ag ydw i!”
Cafwyd lansiad hynod o lwyddiannus yn Llyfrgell Caergybi gyda chrefftau, paentio wynebau, gemau, canu a darlleniad. Diolch i’r Llyfrgell am drefnu ac i Awen Menai am ddod yno i werthu’r llyfr. Pob hwyl Catrin gyda’r gwerthiant!
Mae Ysgol Arswyd gan Catrin Angharad ar gael nawr yn eich siopa Cymraeg lleol.