Hogia Bodwrog yn codi hwyl yn Llangefni

Yr hogia oedd yn agor tymor newydd Cymdeithas Lôn y Felin

Y Glorian
gan Y Glorian
IMG_4817

Terry Jones oedd un o’r unawdwyr

Anodd coelio bod tymor yr hydref wedi cyrraedd! Mae hynny’n golygu bod pethau’n dechrau dod nôl i drefn ar ôl rhialtwch a gwyliau’r haf. Un o arwyddion fod yr hydref wedi cyrraedd ydy bod Cymdeithas Lôn y Felin, Llangefni yn agor unwaith eto.

Daeth tyrfa dda oddeutu 40 (yn wynebau hen a newydd!) i’r noson agoriadol yn Neuadd T. C. Simpson ac yn agor y noson oedd ein hogia lleol ni sef Hogia Bodwrog. Elfed Hughes oedd yn arwain y noson yn ei ffordd ddihafal ei hun, hefo Arwel Jones yn arwain ac yn cyfeilio a William Jones (neu Wil Penrhyn Oer!) yn plycian tannau’r gitâr. Mae’r hogia wedi cynyddu mewn nifer yn y blynyddoedd diwethaf ac mae’n galondid gweld nifer o hogia ifanc wedi ymuno hefyd.

Canwyd yr hen ffefrynnau ac fe gafodd y gynulleidfa ganu ‘Calon Lân’. Cafwyd unawdau gan Dewi Roberts (Dewi Toffoc), William B. Jones (Bryn Mawr) a Terry Jones.

Llywydd y noson oedd y Parch R. O. Jones ac fe dalwyd y diolchiadau gan y Parch Hugh Pritchard. Cafwyd paned ar y diwedd ac yn ddi-os, fe wnaeth pawb fwynhau noson gyntaf y gymdeithas am y tymor eleni.

Bydd cyfarfod nesaf y Gymdeithas ar nos Fercher 13 Tachwedd pryd y disgwylir sgwrs gan y Parch Iwan Llewelyn Jones, Porthmadog. Mae tâl aelodaeth yn £10 neu gellir talu £2 ym mhob cyfarfod os dymunir.

Croeso cynnes i bawb!

SIOE AEAF MÔN 2024

09:00, 9 Tachwedd – 17:00, 10 Tachwedd (Tâl Mynediad - £5 / Plant dan 16 yn mynd i fewn am ddim / Aelodau CFfI 16 a throsodd £2 efo cerdyn aelodaeth)

Cwis

19:30, 22 Tachwedd

Hosan Dolig Llansadwrn

14:00, 7 Rhagfyr (Am ddim ond bydd raffl a lluniaeth ar werth)

Cylchlythyr