“Mae angen gwarchod y theatr amatur yng Nghymru”

Sylwadau beirniaid Gŵyl Ddrama Eisteddfod Môn eleni ar ddydd Sadwrn 4 Mai yn Ysgol Uwchradd Bodedern

Llifon Jones
gan Llifon Jones
IMG_3624

Llun: Phil Hen

“Mae angen gwarchod y theatr amatur yng Nghymru” – dyna oedd cri beirniaid Gŵyl Ddrama Eisteddfod Môn Bro Alaw eleni a gynhaliwyd ar ddydd Sadwrn 4 Mai yn Ysgol Uwchradd Bodedern. Y beirniaid oedd yr actor Huw Garmon ac un o gyfarwyddwr Theatr Clwyd, Emyr John.

Cafwyd cystadlu gwych rhwng 3pm a 10.30pm, gyda’r Fedal Ddrama yn mynd i Glenys Davies o Lanrwst a Thlws Audrey Mechell am y cwmni gorau yn mynd i Glwb Ffermwyr Ifanc Rhosybol. Llywydd yr ŵyl oedd Ian Selwyn Lloyd, athro Drama cyntaf Ysgol Uwchradd Bodedern ar ddiwedd y 1970au.

Ar ddiwedd y noson, fe apeliodd y ddau feirniaid ar i’r ŵyl ddrama barhau gan fod gwyliau o’r fath yn brentisiaeth wych i actorion ifanc a dramodwyr hefyd. Gwelwyd doniau’r dyfodol yn sicr ar lwyfan Boded eleni.

Dyma’r canlyniadau’n llawn:

Y Fedal Ddrama

1. Glenys Davies, Llanrwst

2. Gerwyn James, Llanfairpwll

3. Catrin Jones Hughes, Gaerwen

Cyfansoddi Drama – Ieuenctid

1. Non Dafydd – Ysgol Dyffryn Conwy

2. Begw Dafydd – Ysgol Dyffryn Conwy

3. Leusa Davies – Ysgol Dyffryn Conwy

Cyfansoddi Monolog – Oedran Ysgolion Uwchradd

1. Elliw Non Hughes- Ysgol Uwchradd Bodedern

2. Deio Edwards – Ysgol Dyffryn Conwy

3. Maggi Morris – Ysgol Dyffryn Conwy

Monolog Bl 7,8 a 9

1. Begw Roberts

2. Lleu Ifan; Sara Williams

3. Non Dafydd; Lowri Llewelyn

Monolog Bl 10

1. Mai Owen

2. Morgan Jones

Perfformiad Theatrig i grŵp Bl 6 ac iau

1. Lal, Ioan ac Erin; Lliwen, Annie ac Alaw

2. Casey, Erin a Glesni

3. Elliw, Lacey ac Amiee

Perfformiad Theatrig i grŵp Bl 7, 8 a 9

1. Cari a Efa Uwch Adran

Perfformiad Theatrig i grŵp Bl 10

1. Enlli, Ynyr a Morgan Uwch Adran

Ysgoloriaeth 18 i 24 oed

1. Ania Moore

2. Ceuron Parry

Perfformio Drama Fer – Agored

1. Clwb Ffermwyr Ifanc Rhosybol

2. Cwmni Licrys Olsorts, Aberystwyth

Actor Mwyaf Addawol (Tlws Coffa Owen Huw Roberts)

Mai Owen, Llanerchymedd

Perfformiad mewn cymeriad

1. Mai Owen