Gŵyl Cefni – cystal â Dolig, meddai Huw

Bydd tre’ Llangefni yn fwrlwm o bobl yn siarad Cymraeg ac yn mwynhau dros y penwythnos

“Dw i’n edrych ymlaen gymaint at Ŵyl Cefni ag yr ydw i at ddiwrnod Dolig,” meddai Cadeirydd yr Ŵyl, Huw Thomas.

“Mae hi’n bleser gweld tre’ Llangefni yn fwrlwm o bobl yn siarad Cymraeg ac yn mwynhau. Mae o’n wefreiddiol.”

Y Gymraeg oedd un o’r prif resymau tros sefydlu’r Ŵyl bron chwarter canrif yn ôl – rhoi llwyfan i gerddoriaeth o’r safon ucha’ oedd un arall a’r trydydd oedd cynnal gweithgareddau yn y gymuned leol gan roi cyfle i bawb ddod at ei gilydd a mwynhau.

Mae’r elfen gymunedol mor bwysig ag erioed, meddai Huw, er bod yr Ŵyl bellach hefyd yn denu pobl o bob rhan o’r ynys a thu hwnt.

Roedd y llynedd yn flwyddyn bwysig, wrth i’r prif weithgareddau ddod yn ôl i Sgwâr y Dre’ – a hynny ar gais y bobl eu hunain. Eleni, efo’r Ŵyl yn rhedeg o ddydd Mercher tan nos Sadwrn, mae yna gig ychwanegol fawr ar y nos Wener.

A fynta wedi bod yn rhan o’r pwyllgor bron ers y dechrau un, mae Huw wedi gweld y digwyddiad yn tyfu a gwella o flwyddyn i flwyddyn … ac mae o eisio gweld hynny’n parhau.

Mae Gŵyl Cefni yn derbyn cefnogaeth gan Gymdeithas Elusennol Môn, a hefyd gan Balchder Bro – un o raglenni Menter Môn sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.