Edrych ymlaen at Ŵyl Go go goch yn Llanfairpwll

Dyma’r tro cyntaf i’r ŵyl gael ei chynnal yn y pentref

Llifon Jones
gan Llifon Jones

Cynhelir gŵyl yn Llanfairpwll am y tro cyntaf eleni ar ddydd Sadwrn olaf Mai, sydd hefyd yn benwythnos gŵyl y banc.

Bydd bwyd ar gael, gweithdy syrcas a bandiau byw.

Ymhlith y bandiau mae Meinir Gwilym, Tesni Hughes a’r band lleol Fleur dy Lys. Bydd disgyblion Ysgol Llanfairpwll hefyd yn cymryd rhan.

Mae’r digwyddiad am ddim ar gae Y Gors yng nghanol y pentref felly ewch ’da chi i gefnogi – bydd yn addas i’r teulu i gyd.

Dywedodd Bethan Môn, un o drefnwyr yr ŵyl: “Mae ’na hen edrych ymlaen at ŵyl Go Go Goch a gobeithio y daw y tyrfaoedd i gefnogi. Hefo Tŵr Marcwis wedi agor hefyd yn ddiweddar, bydd pobl yn medru treulio diwrnod llawn yn Llanfair ar ŵyl y banc!”

Bydd yr ŵyl yn dechrau am 12pm ac yn darfod oddeutu 5pm.

Dweud eich dweud