Ail agor Tŵr Marcwis

Tŵr Marcwis wedi ail agor i’r cyhoedd 1af Fawrth 2024

Twr Marcwis/Anglesey Column
gan Twr Marcwis/Anglesey Column

Wedi dros 10 mlynedd o fod ar gau, daeth y safle yn fyw unwaith eto fis Mawrth 2024, wedi dros flwyddyn o waith adnewyddu ac atgyweirio. Yn dilyn cymorth ariannol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a llawer i noddwr arall, llwyddodd yr ‘Anglesey Column Trust’ sef enw Elusennol y safle, wireddu ail agor Tŵr Marcwis.

Erbyn hyn mae yno 115 o risiau newydd yn y golofn gyda phobl unwaith eto yn gallu mynd i ben y Tŵr i weld yr olygfa anhygoel. Mae yna lwybr newydd sydd yn addas i gadair olwyn fynd i waelod y Tŵr am y tro cyntaf erioed.

Ar y safle, mae yr hen fwthyn bellach wedi cael estyniad hardd sydd rŵan yn gartref i’r Ganolfan Ymwelwyr a chaffi sydd yn darparu teisennau a diodydd poeth ac oer!

Mae’r safle yn agored 9am-5pm ac mae croeso i bobl alw am baned a theisen heb fynd i’r golofn.

Mae maes parcio i bawb ar yr A5, ond os oes gennycg anableddau, awgrymwn i chi ddreifio i’r safle drwy fynd ar lon Parc Tŵr.

Dweud eich dweud