Trigolion Llannerch-y-medd yn cyflwyno siec o £1,000 i Ymchwil Canser Cymru

Doniau’r fro yn dod ynghyd i ddifyrru llond capel o bobl

gan Huw Tegid Roberts

Nos Wener, 22 Mawrth, cynhaliwyd cyngerdd arbennig yng Nghapel Ifan, Llannerch-y-medd, gyda’r dyrfa mor niferus fel y bu’n rhaid agor yr oriel yno. Daeth nifer o ddoniau’r fro ynghyd i gynnal noson o adloniant a chyflwyno siec anrhydeddus i elusen sy’n cyllido ymchwil canser yng Nghymru, yn benodol ar gyfer pobl Cymru.

Arweinydd medrus y noson oedd Linda’r Hafod, gyda dau gôr – Lleisiau Llannerch a Meibion y Foel – yn uno yn y Sêt Fawr o dan gyfarwyddyd eu harweinydd, Grês Pritchard, a fu hefyd yn cyfeilio drwy gydol y noson. Cyflwynodd Rhys Peters, un o feibion y Foel, yr unawd deimladwy ‘Bugail Aberdyfi’, cyn i’r côr merched ganu ‘Ychydig Hedd’, ‘Cymru lân, gwlad y gân’ a’r emyn anthemig, ‘Dros Gymru’n gwlad’ ar y dôn Finlandia – dewis addas o gofio am y gêm bêl-droed rhwng Cymru a’r Ffindir y noson flaenorol.

Camodd y bytholwyrdd Arfon Wyn a’r gantores Gwen Edwards o ogledd yr Ynys i’r llwyfan wedyn i ganu ‘Afon Bacsia’, y gân fuddugol yng nghystadleuaeth cân werin yr Ŵyl Ban Geltaidd y llynedd.  Bu i Gwen wedyn ganu cyfieithiad o gân a gyfansoddwyd gan Bob Dylan, ac a ddaeth yn enwog yn fwy diweddar diolch i ddehongliad Adele ohoni dan y teitl “Make you feel my love” – gyda’r geiriau Cymraeg, ‘Er mwyn i ti fy ngharu i’, yn driw i naws arbennig y gân wreiddiol.

Tro Carys Eleri a’i llais soprano hyfryd oedd hi nesaf i ddiddanu’r gynulleidfa, gyda phawb wedi ei swyno gan ei pherfformiad o Cilfan y Coed a’r Ehedydd.

Yn ail rownd y cyngerdd, cyflwynodd Meibion y Foel ‘Calon Lân’, ‘Mae’n wlad i mi’ (gydag unawd gan Ifan Williams) a ‘Cerddwn ymlaen’, cyn i Arfon Wyn a Gwen ddychwelyd i’r llwyfan i ganu dwy o ganeuon buddugol Arfon yng Nghân i Gymru yn y gorffennol – ‘Y Lleuad a’r Sêr’, a’r ffefryn ‘Harbwr Diogel’. Hyfryd oedd clywed cadwyn o alawon Cymreig ar y chwisl dun gan y milfeddyg lleol Eamon O’Donnell, cyn i Carys Eleri ganu Calon Lân ar dôn ‘The Rose’.

Tro’r Meibion oedd hi wedyn i fynd â ni yn nes at ddiwedd y cyngerdd, gydag ‘Ai am fod haul yn machlud’ (gydag unawd trawiadol gan Ken Williams), ‘Moliannwn’ a’r anthem ‘O Gymru’.

Talwyd y diolchiadau gan Donald Glyn Pritchard, cyn i’r corau ddod at ei gilydd unwaith eto i gloi’r noson gyda ‘Safwn yn y Bwlch’ a’r anthem genedlaethol.  Paratowyd lluniaeth hyfryd y drws nesaf i’r capel ar ddiwedd y cyngerdd.

(Lluniau gan Rhys Glyn Pritchard)