gan
Y Glorian
Bydd Grŵp Llandrillo Menai yn croesawu pobl i’w Diwrnod Hwyl Cymunedol ym mis Mehefin yn Llangefni.
Bydd yn ddiwrnod gwych i’r teulu cyfan ac fe gynhelir llu o weithdai a gweithgareddau cyffrous a fydd yn sicr yn cynnig rhywbeth at ddant pawb.
Bydd gweithgareddau hwyliog yn rhoi blas ar y cyrsiau difyr sydd ar gael ar gampysau’r Grŵp, stondinau a gemau gan gwmnïau ac elusennau lleol, a bwyd a diod blasus i dynnu dŵr o ddannedd.
Mae’n gyfle i gael golwg ar y cyfleusterau gwych, cwrdd â staff, gofyn cwestiynau a chael cyngor gyrfaoedd.
Mae’r digwyddiadau am ddim, yn agored i bawb, ac wedi’u hanelu at:
- Ddisgyblion ysgol a allai fod â diddordeb mewn mynd i’r coleg
- Rhieni sydd am ymweld â’r campws i weld y cyfleusterau a siarad â’r staff
- Trigolion lleol sydd â diddordeb mewn gweld beth sydd gan y coleg a gwasanaethau lleol i’w gynnig
- Pobl sy’n chwilio am waith neu’n meddwl am ddechrau gyrfa newydd
- Ac yn olaf… teuluoedd sydd am gael diwrnod llawn hwyl!
Felly, dewch draw i Goleg Menai Llangefni – chewch chi ddim o’ch siomi!