Mae’n ddigon posib y bydd yr olygfa o ffenestr ambell un ohonoch chi wedi newid erbyn i’r rhifyn hwn eich cyrraedd chi, yn enwedig trigolion pentrefi gogleddol ardal Y Glorian. Ers dros hanner canrif, bu pobl yn gyfarwydd ag agor y llenni bob bore a gweld tŵr hen safle Rio Tinto draw ar y gorwel. Serch hynny, ddechrau’r flwyddyn, cadarnhawyd y bydd y tŵr yn cael ei ddymchwel fel rhan o waith ailddatblygu’r hen safle Alwminiwm. Ar adeg ysgrifennu’r darn hwn, roedd y dyddiad dymchwel wedi cael ei symud ymlaen ychydig wythnosau o’r sôn y buasai’r tŵr yn dod i lawr Ddydd Gŵyl Dewi eleni.
Peth annifyr ydi unrhyw newid. Rydan ni’n greaduriaid sy’n hoffi pethau cyfarwydd o’n cwmpas ni, ac rydw i’n siŵr y bydd cyfran dda ohonoch chi’n ei gweld hi’n chwith heb y tŵr ar y gorwel wrth edrych draw i gyfeiriad Caergybi. Fe fydd hi’n chwith hefyd colli tirnod amlwg ar siwrneiau ar draws yr Ynys – tybed sawl un ohonoch chi sy’n chwarae’r gêm ‘am y cyntaf i weld Tŵr Tinto’ ar eich ffordd tua Chaergybi?
Os da chi isho darllen gweddill y golofn, prynwch y Glorian am 70c neu tanysgrifiwch ar y we!