Artist ydy Sam Robson (aka LymphomaLass) a mae hi’n dysgu Cymraeg (ar lefel Mynediad efo Prifysgol Bangor). Yn yr haf, mi wnaeth Sam beintio llun o’r hen gwch achub yn yr Harbwr ym Mae Cemaes, ar Ynys Môn, ar gyfer yr arddangosfa “Ar y dŵr ac ar y lan” a gynhelir gan Gymdeithas Frenhinol yr Artistiaid Morol.
Ym 1907, ar ôl i’r llong gael ei hadeiladu, roedd pobl yn rhwyfo neu’n hwylio’r Charles Henry Ashley at y rhai oedd angen eu hachub. Roedd hwyliau coch y llong yn sefyll allan yn y tonnau.
Cyn i Sam anfon y llun i mewn, roedd hi isio gwirio enw’r llong. Ond daeth hi o hyd i rywbeth ofnadwy! Mae Sam yn deud: “Mi wnes i grio pan o’n i’n darllen fod y llong y tu hwnt i atgyweirio. Fydd y Charles Henry Ashley ddim yn mynd i’r môr rŵan – byth eto.”
Ond mi wnaeth dagrau Sam droi i mewn i wên, pan ddaeth ebost gan Gymdeithas Frenhinol. Roedd celf Sam wedi cael ei ddangos yn yr arddangosfa (yma: https://rsmaonlinegallery.oess1.uk ac yn Exeter a Llundain yn y gwanwyn). Ac mae Sam wedi ennill y wobr Daler-Rowney am ei phaentiad o’r Charles Henry Ashley hefyd!
Mae Sam wedi penderfynu rhoi unrhyw arian y mae’n ei wneud o’i phaentiad o’r llong i adeiladu amgueddfa ar gyfer y gwch (yma: https://cemaesclassiclifeboat.org.uk/ ). Mae Sam wedi danfon printiau i Oriel Cemaes ac mae hi’n eu gwerthu yma hefyd: https://www.redbubble.com/shop/ap/164948031 .
Mae Sam yn deud: “Dw i’n credu fod Charles Henry Ashley yn medru achub bywydau o hyd – dysgu pobl i fod yn ddiogel ar y môr, yn y môr a ger y môr!”
Roedd geiriau olaf cais arddangosfa Sam yn Gymraeg, allan o barch at bobl Môn:
“Cadwch yn ddiogel rŵan, Charles Henry Ashley, ar ôl achub eraill”.