Noson o ganu’n cloi Cymdeithas Lôn y Felin am flwyddyn arall

Daeth y chwiorydd Elain a Glesni Rhys a Steffan i ddiddanu

Y Glorian
gan Y Glorian
IMG_3060

Llun: Huw Tegid Roberts

Ar noson ddigon gwlyb (nos Fercher, 13 Mawrth), roedd awyrgylch gynnes yn neuadd T. C. Simpson, Llangefni wrth i’r chwiorydd o Fodedern, Elain a Glesni Rhys a chymar Elain sef Steffan roi awr o adloniant ar noson glo Cymdeithas Lôn y Felin.

Cafwyd unawdau, deuawdau a datganiadau ar y piano a’r delyn. Braf hefyd oedd canu’r anthem ar y diwedd!

Do, fe fwynhaodd pawb gan ddweud ein bod ni’n lwcus o gael y fath dalent ar garreg y drws. Mae pawb yn edrych ymlaen at dymor nesaf y gymdeithas yn barod!

Croesawyd pawb gan Llifon Jones a Huw Tegid Roberts dalodd y diolchiadau.