Peraidd ganodd Pedair

Roedd y noson elusennol yn Llangefni yn cynnwys cyfraniadau gan Gôr Ieuenctid Môn a Chôr Esceifiog

Y Glorian
gan Y Glorian

Neithiwr (nos Sadwrn, 11 Chwefror), cafwyd cyngerdd gwych gan ‘supergroup’ diweddaraf Cymru sef Pedair, sy’n cynnwys y cantoresau Gwennan Gibbard, Gwyneth Glyn, Meinir Gwilym a Siân James, yng nghapel Moreia, Llangefni.

Yn ymuno hefo’r merched roedd Côr Ieuenctid Môn, o dan arweiniad Mari Lloyd Pritchard, a Chôr Esceifiog, o dan arweiniad Catrin Angharad Jones. Mae’r ddau gôr yn cystadlu yn Côr Cymru yn Aberystwyth y penwythnos nesaf (17 Chwefror) ac felly roedd y noson yn gyfle i glywed rhai o’r darnau maen nhw am eu perfformio.

Cafwyd perfformiadau graenus gan bawb ac fe glowyd y noson gyda Pedair a Chôr Ieuenctid Môn yn canu ‘Can y Clo’, cân a gyfansoddwyd gan Pedair yn ystod y pandemig ac a ddaeth yn ffefryn dros nos.

Cyflwynydd y noson oedd Richard Edwards o Borth Swtan ac roedd elw’r noson yn mynd tuag at elusennau oedd wedi cael eu dewis gan deuluoedd Mabon Gwyn Lewis a Chloe Bidwell sydd wedi marw’n ddiweddar.