Mae Virginia Crosbie, AS Ynys Môn, yn gofyn i holl ymgeiswyr yr etholiad cyffredinol ar yr ynys ymrwymo i gynnal Ymgyrch Garedicach cyn i drigolion y wlad heidio i’r gorsafoedd pleidleisio eleni.
Oherwydd ei rôl fel AS Ynys Môn, mae Virginia wedi dioddef camdriniaeth ac mae ei bywyd wedi cael ei fygwth sawl gwaith. Mae hi o’r farn y byddai pleidleiswyr o blaid cael ymgyrch etholiadol heb ymosodiadau personol a helbulon – yn enwedig ar y cyfryngau cymdeithasol.
“Yn ddi-os, mae gwleidyddiaeth wedi mynd yn fwy cynhennus dros y blynyddoedd diwethaf a dw i ddim yn meddwl bod y cyfryngau cymdeithasol yn helpu rhyw lawer,” meddai’r AS.
“Ond gallwn newid pethau yma ar Ynys Môn trwy ymrwymo i gynnal ‘Ymgyrch Garedicach’.
“Mae hyn yn golygu y byddem yn canolbwyntio ar y materion sy’n bwysig i bleidleiswyr yma ar yr ynys yn hytrach na mynd i’r afael ag ymosodiadau personol – dw i’n gwybod o’r gorau nad yw’r rhan fwyaf o bobl yn hoffi gweld ymgeiswyr yn ymddwyn yn y fath fodd.
“Yna, fel ynys, byddai modd inni droi ein cefn ar arferion cynhennus ac atgas sydd fel pe baen nhw’n ymwreiddio yn y wlad pan gaiff etholiad cyffredinol ei gyhoeddi.”
Yn ôl Virginia: “Mae’r ffaith bod yn rhaid imi wisgo fest atal trywanu mewn cymorthfeydd, a’r ffaith bod Aelodau Seneddol yn rhoi’r gorau i’w gwaith yn y senedd oherwydd ymosodiadau arnyn nhw a’u swyddfeydd, yn golygu bod angen inni gael trafodaethau gwleidyddol caredicach.
“A ddylen ni ddim anghofio bod dau AS – un o’r Blaid Lafur ac un o’r Blaid Geidwadol – wedi cael eu llofruddio ers 2016 tra’r oedden nhw’n gweithio yn eu hetholaethau.”