Virginia Crosbie yn plannu coed gyda Sgowtiaid Môn

Bu i Virginia Crosbie ymuno â thim o wirfoddolwyr a phobl ifanc o Sgowtiaid Môn

Y Glorian
gan Y Glorian
IMG_2814-1

Virginia Crosbie gyda Lily-Rose Haddrell, Arweinydd Ifanc a Chwilotwr gyda Chwilotwyr De Môn.

Bu i AS Ynys Môn, Virginia Crosbie ymuno â thim o wirfoddolwyr a phobl ifanc o Sgowtiaid Môn dros y penwythnos er mwyn helpu i blannu 800 o goed gwrychoedd yng Nghaeau Ty’n Talwrn – Maes Gwersylla Sgowtiaid yr ynys.

Gweithiodd Virginia gyda’r bobl ifanc i blannu coed ar y safle saith erw sy’n rhan o safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig Gors Bodeilio (SoDdGA).

Bu i’r AS gwrdd ag Adrian Williamson, prif wirfoddolwr Rhanbarthol y Gwersyll, a roddodd groeso cynnes iawn iddi, a’i thywys o amgylch y safle ac i weld y gwaith sydd wedi ei gyflawni ers 2015 i adfer y safle i fod yn gaeau mwy tebyg i ddolydd, wrth greu adnoddau i’w defnyddio gan Sgowtiaid Ynys Môn a grwpiau Tywys yn ogystal â sgowtiaid a grwpiau ieuenctid sy’n ymweld â’r ardal o leoliadau ledled Cymru a Lloegr.

“Cefais amser gwych gyda’r sgowtiaid, yn cymryd rhan yn y prosiect cymunedol anhygoel hwn sy’n helpu’r amgylchedd a bywyd gwyllt yma ar yr ynys,” meddai Virginia.

“Diolch yn arbennig i Adrian, ac i Lily-Rose Haddrell, Arweinydd Ifanc a Chwilotwr gyda Chwilotwyr De Môn, am roi eu hamser i drafod y gwersyll a’u cynlluniau ar gyfer gwella ac ar gyfer y dyfodol gyda mi, yn cynnwys gweithio’n agos gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ac Ymddiriedolwyr yr Eglwys sydd yn berchen ar y safle.

“Hoffwn ddiolch i bob un sy’n gwirfoddoli i redeg y Sgowtiaid a’r holl sefydliadau ieuenctid eraill ar yr ynys. Rydych oll yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau bobl ifanc.”

Cafodd yr 800 o goed eu darparu gan Y Gwirfoddolwyr Cadwraeth fel rhan o’r prosiect ‘ I Dig Trees’. Yn ôl y cyfrifiadau diweddaraf, mae 1500 o goed gwrychoedd wedi eu plannu ar y safle dros y tair blynedd diwethaf.

Dywedodd Adrian: “Hoffai Sgowtiaid Môn ddiolch o galon i Virginia am ddod i ymweld â’r safle a’n gwaith amgylcheddol sydd gennym ar y gweill.

“Mae Caeau Ty’n Talwrn yn safle gwych, sy’n caniatáu i’n Squirrels, Beavers, Cubs a Sgowtiaid i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored drwy gydol y flwyddyn.”