Yr actores Elliw Haf yn rhannu troeon yr yrfa

Roedd yr actores yn edrych yn ôl ar 50 mlynedd yn y byd actio mewn noson yn Llangefni

Y Glorian
gan Y Glorian

Neithiwr (nos Fercher, 10 Ionawr) yn Neuadd T. C. Simpson, Llangefni cafwyd noson hynod ddifyr yng nghwmni’r actores Elliw Haf sydd fwyaf enwog am chwarae Glenda ‘BCG’ Phillips ar ‘Rownd a Rownd’.

Soniodd am ei magwraeth yn Nefyn ym Mhenrhyn Llŷn a’i haddysg yn Ysgol Ramadeg Pwllheli cyn mynd lawr i’r Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd.

Soniodd am ddechrau ei gyrfa hefo Theatr Cymru gan gyfeirio at faint o gyfleoedd oedd i actio bryd hynny, ac actorion Cymraeg yn brin. Cyfeiriodd at gyd-actio hefo Stewart Jones, Mei Jones a’i harwres Beryl Williams – i gyd bellach wedi mynd.

Adlewyrchodd pa mor llewyrchus oedd y diwydiant teledu yng ngogledd Cymru yn nyddiau cynnar S4C, a chymaint o ddramâu oedd yn cael eu cynhyrchu fel ‘Minafon’, ‘Deryn’  a ‘Lleifior’. Cyfeiriodd hefyd at yr awduron Emyr Humphreys a Meic Povey.

Soniodd wedyn am ddechrau ar ‘Rownd a Rownd’ yn 1997 a’r mwynhad mae wedi’i gael o chwarae rhan Glenda ar hyd y blynyddoedd, er byddai’n hoffi mwy o hiwmor a phobl hŷn yn y gyfres er mwyn adlewyrchu pentref go iawn.

Bellach yn byw yn Llanedwen ar lannau’r Fenai, cloeodd y noson drwy adrodd un o gerddi Waldo Williams o’r gyfrol ‘Dail Pren’ er cof am Leah Owen. Mae merch a wyres Leah sef Angharad a Gwenno yn actio merch a wyres Elliw (neu Glenda) yn ‘Rownd a Rownd’ sef Sophie a Mair.

Croesawyd a diolchwyd i Elliw gan Mrs Catherine Jones, un arall o genod Nefyn. Mwynhaodd pawb y noson yn fawr.