Neithiwr (nos Fercher, 10 Ionawr) yn Neuadd T. C. Simpson, Llangefni cafwyd noson hynod ddifyr yng nghwmni’r actores Elliw Haf sydd fwyaf enwog am chwarae Glenda ‘BCG’ Phillips ar ‘Rownd a Rownd’.
Soniodd am ei magwraeth yn Nefyn ym Mhenrhyn Llŷn a’i haddysg yn Ysgol Ramadeg Pwllheli cyn mynd lawr i’r Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd.
Soniodd am ddechrau ei gyrfa hefo Theatr Cymru gan gyfeirio at faint o gyfleoedd oedd i actio bryd hynny, ac actorion Cymraeg yn brin. Cyfeiriodd at gyd-actio hefo Stewart Jones, Mei Jones a’i harwres Beryl Williams – i gyd bellach wedi mynd.
Adlewyrchodd pa mor llewyrchus oedd y diwydiant teledu yng ngogledd Cymru yn nyddiau cynnar S4C, a chymaint o ddramâu oedd yn cael eu cynhyrchu fel ‘Minafon’, ‘Deryn’ a ‘Lleifior’. Cyfeiriodd hefyd at yr awduron Emyr Humphreys a Meic Povey.
Soniodd wedyn am ddechrau ar ‘Rownd a Rownd’ yn 1997 a’r mwynhad mae wedi’i gael o chwarae rhan Glenda ar hyd y blynyddoedd, er byddai’n hoffi mwy o hiwmor a phobl hŷn yn y gyfres er mwyn adlewyrchu pentref go iawn.
Bellach yn byw yn Llanedwen ar lannau’r Fenai, cloeodd y noson drwy adrodd un o gerddi Waldo Williams o’r gyfrol ‘Dail Pren’ er cof am Leah Owen. Mae merch a wyres Leah sef Angharad a Gwenno yn actio merch a wyres Elliw (neu Glenda) yn ‘Rownd a Rownd’ sef Sophie a Mair.
Croesawyd a diolchwyd i Elliw gan Mrs Catherine Jones, un arall o genod Nefyn. Mwynhaodd pawb y noson yn fawr.