Mae Virginia Crosbie AS Ynys Môn wedi cwrdd â 45 o breswylwyr sy’n pryderu am Gyngor Ynys Môn yn cyflwyno llinellau melyn dwbl ym mhentref Brynsiencyn.
Aeth Virginia i ymweld â Stryd Fawr y pentref ddydd Sadwrn i sgwrsio â phreswylwyr sy’n gwrthwynebu cynlluniau’r awdurdod i beintio llinellau ar y ddwy ochr i’r ffordd.
Mae nifer o bobl sy’n byw yno angen parcio eu ceir ar y ffordd y tu allan i’w tai oherwydd problemau symudedd, oherwydd bod ganddynt blant ifanc neu er mwyn i ofalwyr allu parcio yno.
Mae’r Cyngor Cymuned lleol hefyd wedi gwrthwynebu’r cynigion a fyddai’n golygu colli oddeutu 30 o fannau parcio, ac mae Virginia wedi mynegi ei chefnogaeth tuag atynt.
“Mae hon yn broblem fawr ym Mrynsiencyn, ac mae hynny’n amlwg o ystyried nifer y preswylwyr a ddaeth i’m gweld er y tywydd anffafriol. Bydd busnesau’r pentref hefyd yn cael eu heffeithio’n arw, yn enwedig y Swyddfa’r Post, tafarn Y Groeslon a Siop Goffi Heritage,” meddai Virginia.
“Yn dilyn y llythyr yr anfonais at y Cyngor Sir, maen nhw bellach wedi datgan y bydd proses ymgynghori, sy’n golygu bod gan breswylwyr fwy o amser i wrthwynebu a dweud eu dweud. Rwy’n sefyll ochr yn ochr â’r preswylwyr a Chyngor Cymuned anhygoel Llanidan sy’n brwydro’n wych er mwyn atal y llinellau melyn hyn sy’n peryglu bywyd anodd i bobl leol a sawl busnes.
“Byddaf yn cadw llygad ar y sefyllfa dros yr wythnosau nesaf ac rwy’n gobeithio gweld y cyngor yn newid eu meddwl.”
Ychwanegodd yr AS: “Diolch yn fawr i Ailsa Able a gynigiodd i mi ddefnyddio ei thramwyfa yng Nghronglwyd yng nghanol y Stryd Fawr i mi gael cwrdd â phreswylwyr lleol.”
Dywedodd Dyfed Roberts, sy’n breswylydd lleol: “Rydym ni’n hynod bryderus am yr hyn mae’r cyngor sir yn cynnig ei wneud. Bydd hyn yn hawlio oddeutu 30 o fannau parcio oddi ar y Stryd Fawr a does fawr o lefydd parcio eraill i’w cael yng ngweddill y pentref. Bydd yn effeithio’n arbennig ar bobl fregus iawn a theuluoedd ifanc sy’n dibynnu ar allu parcio mor agos â phosibl at eu cartrefi.
“Hoffwn ddiolch i’r Cyngor Cymuned am eu hymateb rhagorol i’r ymgynghoriad. Mae’r pentref yn unfrydol yn erbyn y cynllun hwn. Does wybod pam bod y cyngor sir yn credu bod angen y cynllun hwn, ac rydym yn gobeithio y byddant yn gwrando arnom ni.”