gan
Y Glorian
Llongyfarchiadau i Dr Manon Wyn Williams, Talwrn, ar gael ei hethol yn Gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026. Yn wreiddiol o Rosmeirch, mae Manon bellach yn darlithio yn Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.
Etholwyd y canlynol yn Is-gadeiryddion: Medwyn Roberts, Mari Ann Evans, Derek Evans, Eirian Stephen Jones a Llinos Medi Huws. Etholwyd Fiona Hughes, Brynrefail, yn Ysgrifennydd y Pwyllgor Gwaith a Greta Stuart yn Is-ysgrifennydd. Etholwyd Rhys Parry yn Drysorydd.
Bydd y blynyddoedd nesaf yn rhai prysur i chi gyd – pob hwyl a rhwyddineb yn y gwaith!