Swyddog heddlu o Gaergybi’n cael gwadd i Stryd Downing

Mae PC Lisa Thomas yn ymwneud hefo’r Heddlu Bach yn y dref

Y Glorian
gan Y Glorian

Gwahoddwyd swyddog heddlu o Gaergybi, PC Lisa Thomas, i dderbyniad yn Stryd
Downing yr wythnos hon gan AS Ynys Môn, Virginia Crosbie, i fynychu Derbyniad yr
Hyrwyddwyr Diogelwch Cymunedol Lleol.

Mae Lisa’n recriwtio ar gyfer y rhaglen Heddlu Bach fel rhan o’i swydd, a chafodd ei
henwebu gan Virginia i fynychu oherwydd ei gwaith yn y dref.

Cafodd Lisa gwrdd â’r gweinidog diogelwch, Tom Tugendhat, a sgwrsio â hyrwyddwyr
eraill o bob cwr o’r wlad a oedd hefyd yn cael eu hanrhydeddu yn y digwyddiad.

“Roedd yn bleser tywys Lisa drwy ddrysau du enwog Rhif 10 er mwyn dathlu’r gwaith mae
hi’n ei wneud yn ein cymuned,” dywedodd Virginia.

“Mae Lisa’n gweithio’n galed i gadw’r gymuned yn ddiogel, ac yn benodol, yn ysbrydoli pobl
ifanc yng Nghaergybi. Mae hi’n glod i Heddlu Gogledd Cymru, a’r ynys sydd mor annwyl
iddi.”

Dywedodd Lisa: “Pleser a braint o’r mwyaf oedd cael fy ngwahodd i Rif 10, i gynrychioli
Heddlu Gogledd Cymru, yn ogystal â Chaergybi.

“Ers dechrau yng Nghaergybi, rwyf wedi bod yn hynod ffodus o gael cefnogaeth ein
hasiantaethau partner lleol, busnesau a’r gymuned leol, ac rwy’n hynod ddiolchgar am
hynny.

“Rwyf newydd recriwtio 40 swyddog Heddlu Bach arall ar gyfer Caergybi, ac mae’r fenter
ar ei thrydedd flwyddyn ar Ynys Môn. Roedd fy nhîm yn fuddugol yn her yr haf – yn ennill £1000 ar gyfer eu hysgol.

“Diolch i Virginia am fod mor gefnogol ac am fy ngwahodd i Dderbyniad yr Hyrwyddwyr
Diogelwch Cymunedol Lleol.”