gan
Y Glorian
![IMG_2387](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/30/2023/11/IMG_2387-308x411.jpeg?h)
Echnos (nos Wener, 24 Tachwedd), cafwyd cyngerdd yng nghwmni Rhys Meirion yng nghapel Moreia, Llangefni.
Roedd y tenor ifanc Rhys Meilyr o Langefni yn canu hefyd ynghyd â Chôr Ieuenctid Môn o dan arweiniad Mari Lloyd Pritchard.
Roedd y capel o dan ei sang ac fe fwynhaodd pawb Dilwyn Price, Bae Colwyn yn arwain y noson yn ei ffordd ddihafal ei hun.
Diweddwyd y noson hefo pawb yn canu ‘Safwn yn y Bwlch’, hen ffefryn gan Hogia’r Wyddfa.
Ceir fideo o’u perfformiad o ‘Brenin y Sêr’, ffefryn arall gan Robat Arwyn.