Newyddion cyffrous i’r byd ffilmio ym Môn

Mae Stiwdios Aria yn Llangefni wedi mynd i bartneriaeth hefo On-Set Facilities

Y Glorian
gan Y Glorian
IMG_2369

Mae Stiwdios Aria ar Stad Ddiwydiannol Llangefni

Mae Stiwdios Ffilm Aria yn cyhoeddi partneriaeth gyffrous gydag arloeswyr ym maes cynhyrchu, On-Set Facilities. Mae’r cydweithio hwn yn gam sylweddol ymlaen yn esblygiad gwneud ffilmiau ac mae’n addo dod â thechnoleg flaengar i galon Cymru.

Bydd On-Set Facilities (OSF), sy’n cael eu cydnabod am eu gwaith i gewri’r diwydiant fel Netflix, Disney + ac Apple TV, yn gwella’r hyn a gynigir i wneuthurwyr ffilm sy’n saethu yn Stiwdios Aria. Mae OSF yn defnyddio’r dechnoleg gynhyrchu ddiweddaraf, o’r rhag-ddelweddu i’r ôl-gynhyrchu. Maent yn enwog am wneud y gorau o’r broses gynhyrchu cynnwys, gan gynnig gwasanaethau fel delweddu ar-set, dal symudiadau, tracio camera, cynhyrchu cynnwys a dylunio setiau rhithwir, a bydd y cyfan nawr ar gael yn Aria.

Mae gan Stiwdios Aria ddau lwyfan acwstig pwrpasol yng ngogledd Cymru mewn lleoliad sydd wedi’i amgylchynu gan amrywiaeth o dirweddau trawiadol – cadwyni o fynyddoedd, morluniau, cestyll hynafol a chwareli sy’n atyniad cyson i gwmniau ffilm a theledu. Gydag ystod o feysydd ategol gan gynnwys gweithdai â chyfarpar safonol, swyddfeydd cynhyrchu, cyfleusterau gwisgoedd, ac ystafelloedd colur, gallant wasanaethu amrywiaeth ogynyrchiadau.

“Rydym yn hynod gyffrous i gydweithio gydag On-Set Facilities,” meddai Iddon Jones, Swyddog Gweithredol Stiwdio yn Stiwdios Ffilm Aria.

“Trwy ddefnyddio eu harbenigedd mewn cynhyrchu rhithwir, gallwn wella ein gallui adrodd straeon a dod â ffilmiau hyd yn oed mwy cyfareddol i’n cynulleidfaoedd. Mae’r bartneriaeth hon yn cyd-fynd yn berffaith â’n gweledigaeth o gofleidio technoleg tra’n cynnal dilysrwydd a harddwch Gogledd Cymru.”

Mynegodd Asa Bailey, Goruchwyliwr ac Ymgynghorydd Arweiniol OSF ei gyffro: “Mae Stiwdios Ffilm Aria yn gartref newydd i ni ac yn cynnig cynfas berffaith i ni fedru graddio ein technoleg i gyfleuster maint llawn o’r radd flaenaf. Mae’r bartneriaeth hon yn dyst i esblygiad gwneud ffilmiau yma yng Ngogledd Cymru, lle mae technoleg a chelfyddyd draddodiadol yn priodi.”

Gan gyfuno cyfleusterau rhagorol y stiwdio, a thirweddau naturiol syfrdanol â gallu cynhyrchu rhithwir blaengar OSF, mae’r bartneriaeth hon yn addo darparu profiadau sinematig heb eu hail i gynulleidfaoedd ledled y byd.

Am fwy o wybodaeth ar Stiwdios Ffilm Aria ac On-Set Facilities, ewch i’w gwefannau: www.onsetfacilities.com ac www.ariafilmstudios.com