Mae Janet Finch-Saunders AS, Gweinidog yr Wrthblaid ar Newid yn yr Hinsawdd, a Virginia Crosbie AS Ynys Môn, wedi ymuno â Chymdeithas Ailgylchu Metelau Prydain (BMRA) i alw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i helpu i ddatgarboneiddio’r sector ailgylchu metel yng Nghymru.
Mae sector ailgylchu metelau’r DU yn werth o leiaf £7 biliwn y flwyddyn i economi’r DU, gan ddarparu mwy na 15,000 o swyddi ar draws 2,000 o fusnesau. Mae’r busnesau hyn wedi’u lleoli ledled y DU gyfan, gan gynnwys 24 safle yng Nghymru.
Yn ystod ymweliad ag un o’r busnesau hynny, Phoenix Metals & Demolition Ltd, Gaerwen, Ynys Môn, gwelodd yr aelodau etholedig drostynt eu hunain sut mae’r tîm teuluol yn gweithredu mentrau gwyrdd rhagorol fel:
- Cerbydau dadlygru yn eu sied dadlygru llawn offer;
- Mae’r holl hylifau, teiars a batris yn cael eu hanfon i’w hailgylchu.
Wrth sôn am yr ymweliad, dywedodd Janet Finch-Saunders:
“Rydyn ni wedi gweld dros ein hunain ymdrech wych Phoenix Metals & Demolition Ltd i sicrhau bod eu busnes yn cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd.
“Mae busnesau yn gwneud yr hyn a allan nhw, ond mae cyfle i Lywodraeth Cymru wneud mwy.
“Mae rhwystrau sylweddol yn dal i atal y sector rhag cyrraedd targedau sero net. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod gan bob safle ailgylchu metel gysylltiad â’r grid yn ogystal â’r angen am fwy o fuddsoddiad mewn technolegau newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg.”
Wrth siarad am bwysigrwydd Phoenix Metals & Demolition Ltd i Ynys Môn, dywedodd Virginia Crosbie:
“Busnesau teuluol fel Phoenix yw asgwrn cefn Ynys Môn. Ers dros dri degawd mae’r tîm wedi bod yn darparu lefel uchel o wasanaeth a phrisiau cystadleuol i sgrapio metel i gwsmeriaid mawr a bach yn ardal Ynys Môn a Gwynedd a thu hwnt.
“Fel cymaint o fusnesau ar yr ynys mae eu pwyslais ar wasanaeth ac enw da am ofalu am gwsmeriaid.
“Rwy’n falch bod y tîm yn Phoenix Metals yn creu swyddi lleol i bobl leol. Gallaf eu sicrhau y byddaf yn defnyddio’r adnoddau sydd ar gael i mi i gefnogi busnesau fel eu rhai nhw yn y dyfodol”.