Nid fi yw hwn
Er mwyn gadael sylw, mae angen mewngofnodi neu ymuno â’r safle.
Heno (nos Wener, 17 Tachwedd), roedd capel Rhos y Gad, Llanfairpwll dan ei sang wrth i Feibion Goronwy o ardal Benllech a Chôr Meibion Pen y bont gynnal cyngerdd er budd Hosbis Dewi Sant.
Cyflwynydd y noson oedd Rhun ap Iorwerth ac fe gafwyd unawdau gan Gwen Elin.
Clyw-wyd y ffefrynnau i gyd – o Calon Lân i Anthem o Chess, ac O Gymru i’r emyn dôn Gwahoddiad.
Cafwyd hefyd gair o ddiolch gan Jane Richardson o’r Hosbis.