gan
Y Glorian
Neithiwr (nos Fercher, 8 Tachwedd) daeth oddeutu 40 o bobl Llangefni a’r cylch i wrando ar Hogia’r Bonc o Fethesda yn diddanu yn Neuadd T. C. Simpson, Llangefni.
Cafwyd noson ddifyr ac fe gafodd y gynulleidfa gyfle i gyd-ganu hefo’r hogia.
Canwyd y clasuron i gyd – Moliannawn, Santiana, Cofio dy Wyneb a Beic Peni Farthing fy Nhaid, ymhlith rhai eraill.
Gwnaeth pawb fwynhau’r noson a doedd neb isho mynd adra!!