Diwedd mis Hydref daeth digwyddiad hanesyddol bron i ganol dref Llangefni. Siop ‘Look Around Sports’ yn cau. Y perchennog adnabyddus i bawb, sef John Alun Hughes, neu John Snowball yn ymddeol.
Agorodd John ei siop yn 1958. Dros y blynyddoedd mae’r siop, a John, wedi tyfu yn le am sgwrs, trafod a hwyl. John wedi gwerthu teganau plant lu, crysau pêl-droed, offer athletau, ac yn bwysig iawn dillad ysgol i Langefni a’r fro. Dyma gymeriad o ddyn, llawn hwyl a sbri. Ei wraig Dr Barbara yn llawn mor adnabyddus wedi gweithio yn Meddygfa Coed y Glyn – hithau wedi ymddeol bellach.
Bu John yn Llywydd y Ford Gron, Clwb Rotary Llangefni a Chlwb 41, ac o hyd yn barod i wasanaethu achosion da a chefnogi elusennau. Bydd colled fawr ar ei ôl yn Stryd yr Eglwys, ond rydym yn dymuno ymddeoliad hapus iddo. Bellach mae ganddo 6 o wyrion ac wyresau. Bydd yn dal yn brysur debyg.
Fel nodyn olaf be wnawn ni bob blwyddyn heb y gystadleuaeth fawr o dynnu ceffylau i’r Grand National?