Noswyl Calan Gaeaf yn Bryngwran

Dyma crynodeb o ein noswyl calan gaeaf yn Bryngwran

Lowri Hughes
gan Lowri Hughes

Cynhaliwyd noson calan Gaeaf i’r gymuned ar 29 Hydref wedi ei threfnu gan bwyllgor y dafarn leol yr Iorwerth Arms ym Mryngwran. Yn defnyddio cymorth Clwb Ffermwyr Ifanc Bodedern, mi roedd hi yn noswyl lwyddiannus a brawychus i bawb a oedd yn bresennol.

Mi roedd yno fiwsig a danteithion ar gael yno ynghyd â chyfle i gymryd y sialens o aros ar y bwmpen yr hiraf. Ond y brif elfen o’r noswyl oedd y tŷ bwgan ag yr actorion byw oedd yno. Mi aeth llawer iawn o bobl ddewr i mewn i’r Tŷ ag mi roedd yn llawn sgrechfeydf. Rydym yn wir gobeithio fod neb dal yno!

Hoffai Clwb Ffermwyr Ifanc Bodedern ddiolch i’r Iorwerth ar tîm am gael cymryd rhan a chodi arian ar y noswyl a diolch i gymdogion yr ardal am ddod! Edrychwch allan am fanylion y digwyddiad Nadolig cyn bo hir!