Ar ôl clywed gan ein Trefnydd a Llywydd sirol yma ym Môn, symudwn rŵan at ein Cadeirydd Sirol sef Will Hughes i weld beth sydd ganddo fo i ddweud yn yr wythnosau cyn yr Eisteddfod!
1. Beth ydy dy hoff gystadleuaeth yn yr Eisteddfod?
Gan bo fi fawr o steddfodwr a ddim y gorau am ymarferion, pe bawn i’n cystadlu, Stori a Sain sy’n sefyll allan fel ffefryn imi. Dim gwaith paratoi jest gwrando yn astud ar yr darllenydd ac wedyn mynd ati i bortreadu’r stori gyda chymainf o dwrw ag sy’n bosib (Specialist Subject fi yn ôl Mam!)
2. Beth odd dy hoff ddarn o helpu trefnu’r Eisteddfod?
‘Di’r hoff ddarn imi ond ar fin dechra! Y gosod cadeiriau, arwyddion, stafelloedd newid a phopetg arall sy’n trawsnewid y safle o adeiladau amaethyddol i theater addas i Eisteddfod. Fu ‘na bendant sawl noson hwyr, ond hefo criw o aelodau, cyn aelodau a ffrindiau ffyddlon y mudiad dwi’n bendant fydd digon o hwyl i’w gael yn eu cwmni!
3. Faint o gloch ti yn gobeithio wneith yr Eisteddfod orffen a faint o gloch ti yn rhagweld wneith yr Eisteddfod orffen?
I ddeud gwir dwi heb feddwl llawer am y peth, gan mai hwn fydd y tro cyntaf imi fod yn Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru a minnau yn aelod ers 10 mlynadd! Cwilydd de!
Ond dwi’n gobeithio fydd popeth drosodd erbyn hanner nos… ond cofiwch Ffermwyr Ifanc ‘da ni – ‘da ni byth ar amser!
4. Pa ddiod fydd yn dy law yn Bar yr Eisteddfod erbyn diwedd y noson?
Dibynnu yn hollol ar pa mor ddeffro ‘dwi ar ôl diwrnod prysur o rhedag rownd yn sortio gwahanol pethau! Ond dwi’n ama’n gryf fydd yna Dissarano a Coke yn agos de. A fyddai ar y doubles os di Ynys Môn yn agos i top y tabl!!
5. Pa digwyddiad nesaf yn yr calendar y mudiad yr rwyt yn edrych ymlaen iddo?
Gyda chymainy o digwyddiadau ar y gweill ar lefel Cymru a Sirol, mae’n anodd dewis ond un!
Ond chydig dros wythnos ar ôl i’r Eisteddfod ein gadael ni, fydd aelodau’r mudiad yn gwneud eu ffordd draw i Lanelwedd ar gyfer y Ffair Aeaf. Amrywiaeth eang o gystadlu i’r Ffermwyr Ifanc, a chyfle arbennig i weld yr anifeilaid gorau sgen Cymru i’w gynnig. Ac wrth gwrs, esgus i gymdeithasu efo cyd aelodau o bob rhan o Gymru unwaith eto, heb holl brysurdeb y Sioe Frenhinol.
Edrychwch allan am straeon arall yn yr dyddiau hyd at yr Eisteddfod!