Cipolwg ar Glwb Ffermwyr Ifanc Bodedern

Dyma crynodeb o llwyddianau yr Clwb drost y mis diwethaf!

Lowri Hughes
gan Lowri Hughes

Mae hi wedi bod yn gyfnod brysur iawn i ni yng Nghlwb Ffermwyr Ifanc Bodedern yn ddiweddar. Paratoadau brwd at yr Eisteddfod Sir ar gae Sioe Môn, ar 21 Hydref. Cafwyd diwrnod llwyddianus iawn gyda sawl un o’n haelodau yn llwyddiannus o fewn nifer o cystadleuaeth. Braf oedd gweld y sied yn orlawn efo pobl ifanc yn cystadlu a theuluoedd a ffrindiau y mudiad yno yn cefnogi.

Ynghanol yr holl lwyddiant, dyma ein canlyniadau safle cyntaf:

Cadi Huws yn yr Unawd o dan 16;

Ynyr Williams yn y llefaru o dan 28 a pharodi;

Elliw Huws yn yr Unawd Alaw Werin;

Twm Huws yn Dangos dy Ddoniau;

Catrin Prydderch Owen yn y llefaru o dan 16;

Mari Jones yn Creu Poster;

Jacob Owen yn y Gwaith Coed;

Lowri Hughes yn ysgrifennu erthygl;

a Mari, Noa, Llyr a Twm yn creu TikTok.

Yn olaf, y clwb i gyd am eu buddgoliaeth yng nhystadleuaeth y meim.

Pob lwc i bawb sy’n mynd ymlaen i gynrychioli’r sir yn Eisteddfod Cymru. Ni fydd rhaid teithio yn bell iawn eleni gan mae ar Faes Sioe Môn fydd y digwyddiad hwnnw hefyd ar yr 18 Tachwedd. Felly dewch yn llu i’n cefnogi ni!

Rydym hefyd am longyfarch Jacob Owen am ei fuddugoliaeth yn y barnu carcas o dan 16 a diolch yn fawr i Mr Raymod Jones a JM Butcher am y croeso. Llongyfarchiadau hefyd i Cian Jones a Llŷr Williams am eu buddugoliaeth yn y barnu ŵyn cigydd yn Ffair Aeaf Môn ar ddechrau’r mis. Hoffwn ddymuno pob lwc i’r tri yn Ffair Aeaf Cymru yn Llanelwedd ddiwedd y mis.

Gafwyd gwahoddiad eto eleni gan yr Iorwerth Arms ym Bryngwran i helpu cynnal eu digwyddiad Calan Gaeaf. Noson brawychus a llawer un wedi dychryn! Diolch o galon i’r Iorwerth am y cyfle i godi arian i’r clwb.