M-SParc yn tynnu sylw at sgiliau a’r Gymraeg mewn ymweliad rhyngwladol Gweinidogol

Croesawodd M-SParc weinidogion Cymru ac Iwerddon heddiw i gwrdd â’u tenantiaid

Y Glorian
gan Y Glorian

Croesawodd M-SParc weinidogion Cymru ac Iwerddon heddiw i gwrdd â’u tenantiaid, clywed mwy am y rhaglen sgiliau a chymorth busnes y maent yn ei ddarparu, a gweld y Gymraeg yn cael ei defnyddio’n ddyddiol fel iaith busnes.

Roedd Simon Harries, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Ymchwil, Arloesi a Gwyddoniaeth (Iwerddon) a Lesley Griffiths AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig yn y Senedd, yn ymweld â M-SParc am y bore.

Eisteddodd y Gweinidogion i lawr gyda thîm M-SParc i gael gwybod am eu prosiectau a’u huchelgeisiau amrywiol. Roedd ymweliad aelodau o Lywodraethau Cymru ac Iwerddon ag Ynys Môn hefyd yn gyfle i gwrdd â thenantiaid M-SParc sydd â chysylltiad Gwyddelig, gan gynnwys Micron Agritech a CapVentis sydd ill dau yn buddsoddi yng Nghymru.

Mae Micron Agritech wedi dylunio dyfais i brofi am barasitiaid mewn baw anifeiliaid a chael gwared ar yr angen i roi gwrthfiotigau yn gyffredinol. Fe wnaethon nhw ymuno ag ecosystem M-SParc pan enillodd eu syniad yr Hac AgriTech.

Dywedodd Madeleine Bucki, Arweinydd Milfeddygol ar gyfer Micron Agritech “Dyfarnwyd cyllid i ni fel rhan o’r Hac AgriTech, ac fe wnaethom gyflogi dau berson yng Nghymru yn dilyn hynny. Ers hynny, rydym wedi bod yn rhan o ddigwyddiad yn M-SParc ac wedi meithrin cysylltiadau â’r ecosystem yma yng Nghymru. Mae gennym ni filfeddygon yng Nghymru yn treialu’r cit, felly rydyn ni’n ehangu yma hefyd. Mae’n mynd i fod yn 12 mis cyffrous.”

Dysgwch fwy am sut mae M-SPrac yn rhoi Croeso Cynnes i gwmnïau sy’n symud i Gymru, yma.

Dywedodd y Gweinidog Simon Harries “Mae cymaint y gallwn ni ei wneud yn erbyn y cefndir Gwyddelig-Cymreig nawr, o gwmpas sgiliau, busnes, a mwy. Mae yna gyfle os edrychwn at ein gilydd (yn hytrach nag i Lundain, Manceinion, ac yn y blaen), i gydweithio ymhellach.”

Trafodwyd y Gymraeg hefyd, a pharhaodd y Gweinidog “Rydym yn edrych atoch chi (Cymru) o amgylch ieithoedd lleiafrifol, rydym wedi gwneud rhywfaint o gynnydd ac yn gallu dysgu oddi wrthych. Dyna faes ar draws y llywodraeth i gydweithio arno.”

Dywedodd Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc, “Rydym bob amser yn falch o arddangos ein tenantiaid gwych, ac mae ein cysylltiad ag Iwerddon yn un cryf y byddwn yn parhau i’w feithrin. Roedd yn wych gallu rhannu ein gwaith sgiliau gyda’r Gweinidogion, a dangos sut rydym yn cefnogi ein tenantiaid i greu swyddi sy’n talu’n dda y gall graddedigion o Brifysgol Bangor a phobl leol fanteisio arnynt. Mae hyn i gyd yn cael ei wneud wrth gwrs drwy’r Gymraeg, ffactor arall rydyn ni’n ei ystyried yn gryfder, a braf oedd gweld Gweinidog Iwerddon yn dathlu hyn hefyd.”

Roedd yr ymweliad yn llwyfan ardderchog i barhau i ddatblygu cysylltiadau Cymreig-Gwyddelig, a bydd M-SParc yn ymweld ag Iwerddon eto ar ddechrau 2024 i barhau i ddatblygu cyfleoedd cydweithio i yrru economi Cymru yn ei blaen.