Cangen Swyddfa’r Post Caergybi yn agor gwasanaeth bancio uwchraddedig

Mae’r gwelliannau’n cynnwys technoleg safon-banc newydd sy’n golygu adneuo a chodi arian yn gyflyma

Y Glorian
gan Y Glorian

Mae Swyddfa’r Post yn falch o gyhoeddi datblygiad newydd fel rhan o’i bartneriaeth â Cash Access UK i wella’r profiad bancio mewn canghennau dethol o Swyddfa’r Post. Bydd buddsoddiad Cash Access UK yn golygu cynlluniau arbrofol mewn 15 cymuned lle mae LINK, sef rhwydwaith cyrchu arian parod a pheiriannau arian parod y DG, wedi nodi’r angen am well gwasanaethau adneuo arian parod pan fo cangen banc yn cau.

Ynghyd â Cash Access UK, rydym wedi bod yn gweithio i wella gwasanaethau adneuo arian parod i fusnesau bach ac rydym yn falch o gadarnhau bod y gwasanaethau uwchraddedig ar gael bellach yn Swyddfa Bost Caergybi.

Ymwelodd Virginia Crosbie AS â’r gangen i weld y gwasanaethau bancio uwchraddedig ar waith yn 14-16 Stryd Stanley, Caergybi LL65 1HG.

Dewiswyd Caergybi i dderbyn y gwasanaethau hyn ar ôl i LINK, rhwydwaith cyrchu arian parod a pheiriannau arian parod y DG, nodi’r angen am well gwasanaethau adneuo arian parod yn dilyn cau canghennau banc yn y dref.

Bydd y gwelliannau’n amrywio o gyflwyno peiriannau newydd i gyfrif papurau banc i wneud trafodion yn gyflymach i osod cownteri banc â blaenoriaeth a mwy o breifatrwydd.Bydd hyn o gymorth i unigolion a busnesau bach fel ei gilydd, gan gynnig lle mwy preifat i drafod arian a llai o amser ciwio.

Mae’r gwelliannau hyn yn ychwanegiad i’r gwasanaethau bancio beunyddiol presennol sydd eisoes ar gael mewn Swyddfeydd Post, gan gynnwys adneuon arian parod a gwasanaethau codi arian o bron pob banc yn y wlad.

Mae Swyddfa’r Post yn rhedeg rhwydwaith manwerthu mwyaf y DG, gyda 11,500 o ganghennau. Mewn llawer o gymunedau dyma’r cownter olaf yn y dref lle gall pobl adneuo a chodi arian parod yn ddiogel a chyfleus. Mae Swyddfa’r Post yn cynnig profiad un-stop i bobl, yn enwedig y rhai sydd newydd gyrraedd y DG, lle gallant gyrchu eu harian, trosglwyddo arian  i anwyliaid mewn gwlad dramor – ac ar yr un pryd anfon llythyrau a pharseli at berthnasau a ffrindiau mewn gwledydd tramor.

Virginia Crosbie, AS Ynys Môn: “Mae’r gwasanaeth bancio uwchraddedig yn edrych yn wych a bydd yr amseroedd aros byrrach yn ei gwneud hi’n haws i fusnesau bach adneuo eu derbyniadau’n gyflym, heb amharu ar eu cynhyrchiant. Rwyf wir eisiau diolch i’r Postfeistri Nish a Jayanthi am redeg y gangen uwchraddedig yng Nghaergybi – mae’n welliant mawr i’w cwsmeriaid bancio rheolaidd ac mae’r ddau yn awyddus iawn i barhau i gynnig gwasanaeth o’r radd flaenaf i’r gymuned.”

Ross Borkett, Pennaeth Bancio yn Swyddfa’r Post:”Rydym wrth ein bodd yn gweithio mewn partneriaeth â Cash Access UK i gyflawni’r gwelliannau hyn ac rydym yn hyderus y bydd cwsmeriaid Swyddfa Bost Caergybi yn gwerthfawrogi’r gwasanaethau bancio gwell. Mae Swyddfeydd Post yn hanfodol i oroesiad llawer o fentrau bach a chanolig. Mae  dros £1 biliwn mewn arian parod yn cael ei adneuo dros y cownter bob mis gan fusnesau ledled y DG ac rydym yn ymwybodol iawn bod perchnogion busnesau bach yn gorfod treulio cyn lleied â phosib o amser i ffwrdd o’u busnesau fel y gallant barhau i werthu eu nwyddau a’u gwasanaethau. Rydym yn edrych ymlaen at weld gwasanaethau bancio uwchraddedig yn parhau i gael eu cyflwyno ar draws ein rhwydwaith.”

Y Postfeistri Nish a Jayanthi: “Mae gwella’r gwasanaethau bancio wedi gwneud ein cangen yn fwy effeithlon o lawer.Bellach, gall perchnogion busnesau bach prysur, yn ogystal â’n cwsmeriaid bancio personol rheolaidd, gyrchu gwasanaeth yn gyflymach, gyda llai o amser yn aros eu tro. Mae’r peiriannau newydd sy’n cyfrif papurau banc yn ychwanegiad i’w groesawu am eu bod yn helpu i wneud ein cangen yn fwy cynhyrchiol a c yn gwella’r gwasanaeth rydym yn ei gynnig i gwsmeriaid.  Rydym eisoes wedi derbyn llawer o ymateb cadarnhaol gan ein cwsmeriaid yng nghymuned Caergybi.

Gareth Oakley, Prif Weithredwr Cash Access UK:“Rydym wrth ein bodd yn gweithio gyda Swyddfa’r Post i brofi ffyrdd newydd o wella profiad bancio pobl. Gobeithiwn y bydd busnesau bach yn enwedig yn elwa o drafodion cyflymach, mwy preifat, a all yn ei dro eu cymell i barhau i dderbyn arian parod gan eu cwsmeriaid. Rydyn ni’n edrych ymlaen at glywed barn pobl am y gwasanaethau newydd.”