Morio canu’n Moreia

Cymanfa Ganu’n dychwelyd i gapel Moreia, Llangefni

Y Glorian
gan Y Glorian

Daeth tyrfa dda i gapel Moreia, Llangefni neithiwr (17 Medi) i’r gymanfa ganu gyntaf a gynhaliwyd yn y capel ers tro bryd.

Alun Guy o Gaerdydd oedd wrth y llyw hefo Huw Goronwy Owen wrth yr organ. Canwyd y ffefrynnau i gyd – Rachie, Tyddewi, Trewen a Berwyn ymhlith eraill.

Cafwyd eitemau pwrpasol gan y soprano Glesni Rhys sydd ar fin dechrau ei hail flwyddyn hefo’i chwrs llais ym Manceinion.

Llywydd y noson oedd Nia Thomas o’r BBC.

Mewn oes lle mae trai ar y cymanfaoedd, braf oedd cael canu da (yn enwedig y tenoriaid!) a gobeithio y bydd y gymanfa’n parhau i’r dyfodol!

Lluniau: Trefor Edwards