gan
Y Glorian
Cafwyd noson lwyddiannus iawn yng Nghlwb Pêl Droed Llangefni neithiwr (nos Wener, 1 Medi) er budd papur bro’r Glorian.
Braf ydy dweud bod y clwb yn llawn wrth i’r Brodyr Magee o ardal Ynys Cybi ddiddanu’r gynulleidfa hefo caneuon gwreiddiol a ‘covers’ o ganeuon Meic Stevens, Emyr Huws Jones a Dewi Pws.
Roedd y noson o dan ofal Elfed Hughes, Llandrygarn.
Cafwyd raffl ar y noson a dymuna pwyllgor y Glorian ddiolch i bawb am bob rhodd.
Dywedodd yr ysgrifennydd Llifon Jones: “Roedd hi’n braf gweld cymaint wedi dod i’r noson er budd y papur, mewn cyfnod o gyni ariannol. Diolch i bawb wnaeth wneud y noson yn un llwyddiannus.”