Anrhydedd i Eryl Jones o Fodffordd

Anrhydedd i Eryl Huw Jones

Y Glorian
gan Y Glorian

Llongyfarchiadau i Eryl Huw Jones o Fodffordd ar dderbyn tystysgrif anrhydedd gan Gymdeithas Eisteddfodau Cymru am wirfoddoli am 50 mlynedd hefo Eisteddfod Môn. Derbyniodd yr anrhydedd ar Faes yr Eisteddfod ym Moduan gan Megan Jones Roberts, Cadeirydd y Gymdeithas. Roedd ymhlith dros 20 o’r gogledd a dderbyniodd dystysgrif.

Ar ôl derbyn yr anrhydedd, dywedodd Eryl:

“Dwi’n ei theimlo hi’n anrhydedd mawr mod i wedi cael bod ynghlwm ag Eisteddfod Môn am 50 mlynedd, a braf ydy gwybod fod rhywun yn rhywle yn gwerthfawrogi yr hyn dwi wedi ei wneud.”

“Dwi wedi gwneud y cyfan o ran pleser dros y blynyddoedd a dim mwy na hynny, ond dwi’n diolch ac yn gwerthfawrogi y gydnabyddiaeth a’r anrhydedd yma’n fawr”

Llongyfarchiadau!

1 sylw

Mae’r sylwadau wedi cau.