Gŵyl Cefni – rili pwysig i fi, meddai DJ newydd

Ar ôl canu yno ei hun ac efo’i band, mi fydd Tesni Hughes hefyd yn DJio yno am y tro cynta’ erioed.

Mae Gŵyl Cefni wedi bod yn rhan fawr o fywyd y gantores Tesni Hughes ac mi fydd eleni yn bwysicach nag erioed.

Ar ôl canu yno ei hun ac efo’i band, mi fydd hi hefyd yn DJio yno am y tro cynta’ erioed. “Fedra’ i ddim disgwyl,” meddai’r hogan leol, sy’n mynd i’r Ŵyl ers pan mae hi’n cofio.

“Mae Gŵyl Cefni wedi bod yn rhan mawr o ’mywyd i ers o’n i’n rili ifanc,” meddai. “O’n i’n arfer mynd pan o’n i’n fengach a tydw i heb stopio mynd ers hynny.”

Bydd Tesni yn ymuno â llwyth o artistiaid lleol fatha Fleur de Lys, y Brodyr Magee a Chôr Ieuenctid Môn yn y lein-yp ar y dydd Sadwrn, gyda Bwncath yn hedleinio ddiwedd y nos.

Mae’r trefnwyr wastad wedi bod eisio meithrin talentau lleol, a thrwy rwydwaith perfformwyr ifanc y cafodd Tesni ei chyfle cynta’. “Mae Gŵyl Cefni wedi rhoi cymaint o gyfleon i fi fel cerddor.

“Mae’r ŵyl i fi yn bersonol yn rhywbeth rili pwysig a dw i’n nabod gymaint o bobl sy’n teimlo’r un fath! Mae’n gyfle i bobl ddod at ei gilydd a mwynhau talentau lleol. Dydi o ddim yn aml bod ’na bethau’r maint yma’n digwydd yn Ynys Môn!”

Mae’r atgofion am un Ŵyl yn arbennig yn crisialu pob dim y mae Tesni yn ei garu am y digwyddiad, a hynny pan oedd Cymru yn chwarae pêl-droed yn yr Ewros.

“Oedd y tywydd yn neis, oedd y lein-yp yn class ac oedd pawb yno! Dyna dw i’n ei garu am Ŵyl Cefni – dw i’n cael y cyfla i weld pobl dw i heb eu gweld ers sbel … er eu bod nhw’n byw yn yr ardal!”

Mae Gŵyl Cefni yn derbyn cefnogaeth gan Gymdeithas Elusennol Môn, a hefyd gan Balchder Bro – un o raglenni Menter Môn sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.