Llwyddiant i Morlais yng ngwobrau Gyrfa Cymru

Mae’r cynllun, sy’n cael ei reoli gan fenter gymdeithasol, Menter Môn, wedi ennill y categori Newydd

Llifon Jones
gan Llifon Jones

Bu cynllun ynni llanw Gogledd Cymru, Morlais, yn llwyddiannus yng Ngwobrau Partneriaid Gwerthfawr Gyrfa Cymru a gynhaliwyd yn y Senedd, Caerdydd yr wythnos hon.

Mae llwyddiant yn y gwobrau hyn yn amlygu ymroddiad Morlais i greu cyfleoedd ar gyfer datblygu’r gweithlu ac addysgu pobl ifanc am rôl bwysig ynni’r llanw wrth fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

Mae Gwobrau Gyrfa Cymru yn dathlu cyfraniadau eithriadol i arloesi datblygiad gyrfa ledled Cymru. Mae gwobr y Newydd-ddyfodiad Gorau yn cydnabod sefydliadau sydd wedi cael effaith sylweddol mewn amser byr.

Wrth dderbyn y wobr, roedd Fiona Parry, Swyddog Prosiect Sgiliau a Hyfforddiant, yn ddiolchgar, dywedodd: “Dechreuais gyda Morlais ychydig dros flwyddyn yn ôl, ac mae’n teimlo’n wych i gael ein henwebu ac i ennill y wobr yma. Mae’r cydweithio gyda Gyrfa Cymru er mwyn ymgysylltu gyda phobl ifanc yn rhan holl bwysig o’r rôl. Mae’n fraint cael mynd mewn i’r ysgolion i sôn am brosiect Morlais, ac i ysbrydoli’r bobl ifanc i feddwl a pharatoi am eu dyfodol.

Ychwanegodd: “Rydym wrth ein boddau i dderbyn y wobr yma. Fel prosiect Menter Môn, mae’n holl bwysig i ni ym Morlais ein bod yn hyrwyddo’r prosiect yn Ynys Môn ac ar draws y rhanbarth i ysbrydoli pobl ifanc i feddwl am eu dyfodol, ac i feddwl am yrfa yn y sector holl bwysig yma. Diolch o galon i Yrfa Cymru, yn enwedig John Edwards, am drefnu’r holl ddigwyddiadau sydd wedi ein galluogi ni i gynnal y sgyrsiau pwysig yma gyda’r bobl ifanc.”

Fel un o brosiectau ynni llif llanw mwyaf y byd sydd wedi cael caniatâd, bydd Morlais yn defnyddio pŵer y llanw oddi ar arfordir Ynys Môn i gynhyrchu trydan glân. Mae disgwyl i’r tyrbinau cyntaf gael eu gosod yn y môr yn 2026.

Mae datblygiad Morlais wedi derbyn cefnogaeth gan  Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, ynghyd â Cyngor Sir Ynys Môn, yr NDA a Chynllun Twf Gogledd Cymru.

Dweud eich dweud