Be well ar noson wyntog, dywyll na gweld goleuadau’r Nadolig yn fflachio drwy’r ardal? Dyna brofodd Rhian o Siop Cain, Llangefni o amgylch Llangwyllog, Bodffordd, Llynfaes, Llandrygarn a Threfor ar nos Iau Rhagfyr 5.
Elin Parry feddyliodd am y gystadleuaeth er mwyn llonni nosweithiau tywyll yr ardal a chodi arian at Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026 yr un pryd. Roedd angen talu i gofrestru erbyn diwedd Tachwedd ac yna mynd ati i addurno’r ffenestri. Roedd 25 ffenest wedi ei haddurno i gyd.
Cafwyd prynhawn Nadoligaidd hyfryd yn Neuadd Goffa Bodwrog bnawn Sul, 15 Rhagfyr, lle’r oedd lluniau o’r ffenestri yn cael eu harddangos, gemau a phosau, a chyfle i’r plant wneud crefftau. Roedd Crefftau’r Llyn yno hefyd yn gwerthu ei nwyddau bendigedig.
Cyhoeddwyd yr enillwyr yn ystod y prynhawn. Yn gyntaf roedd Cadi Roberts, Tryfil gyda ffenestr wedi ei haddurno gyda Siôn Corn a’i gorachod, Cenin Thomas a’r teulu yn ail gyda ffenestr dynion eira a Teleri, Llwyn Onn a’r hogia’ yn drydydd gyda ffenestr Nadoligaidd iawn.
Diolch o galon i Rhian am ei hamser yn beirniadu ac am ei rhoddion Nadoligaidd hael i’r buddugwyr. Diolch hefyd i Elin am y syniad ac am weithio’n galed i’w wireddu, ac i bawb a gyfrannodd mewn unrhyw ffordd.
Codwyd dros £450 at yr achos. Byddwn yn chwilio am fwy o syniadau cymdeithasol amrywiol i godi arian at Eisteddfod yr Urdd 2026 yn y flwyddyn newydd, felly cysylltwch os oes gennych unrhyw syniadau!