Noson Garolau Bodwrog

Neuadd Bodwrog, Llynfaes dan ei sang yn ystod y Noson Garolau flynyddol.

gan Llio Davies
IMG_6822

Hogia Bodwrog yn eu crysau cochion

IMG_6821

Criw Ysgol Gymuned Bodffordd

IMG_6819

Merched y Wawr Bodwrog

IMG_6823

Canu cynulleidfaol

IMG_6824

Teulu Tryfil

Roedd Neuadd Goffa Bodwrog dan ei sang nos Fercher, 18 Rhagfyr wrth i’r Noson Garolau flynyddol lenwi’r neuadd.

Cafwyd gwledd o ganu cynulleidfaol swynol iawn yn ogystal ag eitemau gan drigolion dawnus yr ardal. Roedd Hogia Bodwrog yno yn ôl eu harfer yn canu dan arweinyddiaeth Arwel Jones ar y piano a Wil Jones ar y gitâr.

Cafwyd caneuon hyfryd gan griw Ysgol Gymuned Bodffordd o dan arweiniad Cenin Thomas. Perfformiodd Gwenlli Dafydd a Merched y Wawr Bodwrog ddarlleniad clir o ‘Gwaith y Nadolig’. Cafwyd amrywiaeth o eitemau gan deulu Tryfil a chanodd Teleri Mair unawd deimladwy ‘Alaw Mair’.

Diolch i’r holl artistiaid am ein diddanu, i Elfed Hughes am arwain ac i Arwel Jones am gyfeilio.

Codwyd £780 tuag at y Neuadd rhwng y rhoddion a’r raffl. Diolch i bawb am eu cefnogaeth a dymunwn Nadolig Llawen i chi gyd.

Dweud eich dweud