MR WIL WILLIAMS ‘Rynys, Brynteg
Nos Lun, 16 Rhagfyr, daeth criw o bentrefwyr at ei gilydd yn y Ganolfan yn Llanbedrgoch i fwynhau noson o ganu carolau, ac yn ystod yr egwyl, cawsom gyfle i gydnabod cyfraniad Mr Wil Williams, ‘Rynys Isaf, Brynteg, a oedd wedi ymddeol yn ddiweddar, yn dilyn deuddeng mlynedd o wasanaeth i’r gymuned fel cadeirydd pwyllgor Y Ganolfan.
Cawsom gyfle i glywed ychydig o hanes a chefndir Mr Williams, gŵr lleol sydd wedi gweithio yn ddiwyd ar ran amaethwyr gydol ei yrfa. Dyma gipolwg ar fywyd a gyrfa ddiddorol Wil.
Ganwyd William yn Gwenfro Isaf, ble roedd ei hen nain yn ffermio, a bu yno nes yn 7 neu 8 oed, pan symudodd gyda’i rieni i Langwyllog, a bu yno tan yn 13eg oed, pan, yn anffodus, profodd y teulu brofedigaeth anodd, pan gollodd William a’r teulu, eu tad.
Felly yn 1962, symudodd y teulu eto, y tro hwn i ‘Rynys Isaf, Brynteg ac bu yno nes ymadael wedi iddo cael ei dderbyn i’r Coleg Amaethyddol yn Sir Gaerloyw, sef y ‘Royal Agricultural College’ yn Cirencester. Coleg i fechgyn yn unig oedd y coleg pryd hynny, ond roedd y bechgyn ifanc yn cael cyfle i gymysgu a chymdeithasu drwy fynd i ddawnsfeydd mewn colegau eraill, a dyna sut cyfarfu Wil â Sheila, y ferch oedd yn fyfyrwraig yn Ngholeg Cheltenham, yn ddarpar athrawes, a fyddai’n dod yn wraig iddo yn 1971.
Ymunodd Wil â thîm adain Caerlŷr o ADAS, corff annibynnol sy’n cynnig ymgynghoriaeth amaethyddol ac amgylcheddol, cyngor polisi, ac ymchwil a datblygu, a bu yno am rhyw ddwy flynedd. Er mawr syndod i Wil, ac erbyn hyn ei wraig o rhyw chwe wythnos, cawsant neges yn rhoi gwybod iddynt bod trosglwyddiad i Swydd Gaergrawnt ar y gwauell, felly roedd rhaid codi pac ac ail gartrefu yn March, tref fechan yng nghanol y corsdiroedd, ac ar y corsydd eang yma bu Wil yn gweithio arnynt. Yn nhref March hefyd ganwyd dau o blant i Wil a Sheila.
Ysfa wedyn i symud yn nes at gartref yn dod drosto, a bu yn Rhuthun am 3 blynedd cyn iddo syrthio ar ei draed! Drwy lwc daeth swydd yn wag yn dilyn ymddeoliad cyd-weithiwr yn Swyddfa ADAS yn Langefni, a phwy well i ymgymryd a’r gwaith, ond Wil Williams Rynys!
Blynyddoedd yn ddiweddarach, ac yntau dal i weithio ac ymddiddori ym myd amaeth a’r gymuned, etholwyd Wil yn gadeirydd ar bwyllgor Y Ganolfan, a bu’n gweithio’n galed ynghyd ag aelodau pwyllgor ac aelodau’r gymuned, i godi arian ac ail-drin yr hen adeilad yn nghanol y pentref, a’i droi yn adeiladu modern, hyfryd, a fyddai’n ganolbynt i’r pentref. Yn driw i’w bersonoliaeth, aeth Wil ati yn ei ffordd distaw, foneddigaidd a ddiymhongar; yn wir bu’n cadw trefn ar bethau heb rwgnach na lol, hyd yn oed yn ystod cyfyngiadau a rhwystrau cyfnod y cofid, dim ond ‘dal ati’ a cheisio gwneud y gorau o’r sefyllfa.
Yn ogystal â gwirfoddoli a chefnogi sefydliadau a phrosiectau lleol fel y Ganolfan a Chymdeithas Amaethyddol Môn, bu Wil yn gefnogol iawn ac yn rhannu ei arbenigedd ymysg amaethwyr ac aelodau Ffederasiwn Tir Glas Cymru, ac ym mis Gorffennaf eleni, draw yn Aberystwyth, anrhydeddwyd Wil gyda thlws yn cydnabod ei wasanaeth yn cynorthwyo gwaith pwysig y sefydliad.
Nos Lun, cawsom ambell stori ddifyr gan Wil, wrth iddo ddwyn i gof hanesion o’i blentyndod a’i fagwraeth, a bu’n sôn am yr hen arferion lleol, er enghraifft y rasus milgwn ar gaeau Plas Brain pan ddefnyddwyd ffrâm beic ben i waered, tynnu’r teiar oddiar yr olwyn, clymu clwtyn ar raff yn sownd i’r olwyn, yna llusgo’r ‘gwningen’ hyd y cae i’r milgwn ceisio ei ddal, tra bod rhai o fechgyn y pentref yn troi y pedalau ‘ffwl-sbîd’!
Ar ddiwedd ei anerchiad, diolchwyd iddo gan y gynulleidfa, roedd y diolchiadau yn ddiffuant, ac yn cyfleu gwerthfawrogiad aelodau’r gymuned. Cyflwynwyd rhodd i Wil gan dri o bobl ifanc y pentref, sef Awel, Enlli ac Arlind, ar ran y gymuned gyfan a phwyllgor y Ganolfan, ond gwell iddo wylio ei hun – roedd sawl un yn sôn bod deunydd llyfr yn yr anerchiad!