Ar ôl misoedd o waith paratoi, trefnu a hel enwau/rhoddion ayyb, o’r diwedd mi gyrhaeddodd nos Sul 15 Rhagfyr sef noson Taith Tractorau Nadolig CFfI Penmynydd! Hon oedd yr ail flwyddyn i ni gynnal y digwyddiad ac mae’n deg dweud ei bod wedi tyfu mewn blwyddyn! Wrth i’r tractorau o bob lliw a llun, mule, pickups a van droi fyny fesul eu degau – pob un yn lân ac wedi eu haddurno wrth gwrs, roedd ’na bryder faint o gerbydau all maes parcio Ysgol David Hughes ddal – wel, mi ddaliodd pob un felly roedd hynny’n ryddhad! Rydym yn ddiolchgar iawn i bob un ddaeth a’u cerbydau i ymuno gyda ni ar y daith 30 milltir o amgylch lonydd Ynys Môn er mwyn casglu arian tuag at Ambiwlans Awyr Cymru, Awyr Las a CFfI Penmynydd.
Ar ran tîm trefnu Taith Tractorau Nadolig CFfI Penmynydd, diolch i bawb wnaeth ein helpu a cefnogi mewn unrhyw ffordd.
Diolch i aelodau’r clwb fu’n trefnu, helpu yn y gegin, trefnu traffig ac yn cymyd rhan yn y daith, i swyddogion Clwb Ffermwyr Ifanc Bodedern ac Edna, Trefnydd Ffermwyr Ifanc Môn am eu holl help ac i’r tîm traffig am gadw bob dim i lifo.
Diolch hefyd i’r holl stiwardiaid fu o amgylch y pentrefi yn hel cyfraniadau ac a fu’n gwerthu tocynnau raffl.
Diolch i’r busnesau lleol a wnaeth ein cefnogi mewn unrhyw ffordd, Mona Tractors Co. Ltd, Emyr Evans a’i Gwmni Cyf, C.L. Jones Timber & Builders’ Merchants, AE & AT LEWIS Ltd, Siop Ellis – SPAR, Becws Môn, Farm Foods, Llechwedd Meats – Meat Megastore, South Caernarfon Creameries, Asda Llangefni, Simon Jones Contracting a E & D Thomas, i Phil Hen am dynnu lluniau, i Ysgol David Hughes YDH am gael cychwyn o’r maes parcio a Theulu Maple, Bryn Hyfryd am gael defnyddio’r cae i barcio ar y diwedd a Canolfan Penmynydd i ni allu bwydo pawb.
Da ni’n siwr allwch chi gyd gytuno bod y ‘Tracio Tractorau’ wedi bod yn grêt a diolch i Alun Rowe o Pentangle Technology Limited am ei gefnogaeth gyda cael y linc yn gweithio!
Yn olaf, diolch i bawb ddaeth allan i’n cefnogi ar hyd pob lôn a phentref a diolch i bawb wnaeth gyfranu neithiwr neu trwy’r linc Just Giving! Bydd y ddolen Just Giving yn parhau ar agor dros y dyddiau nesaf cyn i ni allu cyhoeddi swm terfynnol cyn y Nadolig.
Unwaith eto, diolch yn fawr iawn i bawb wnaeth helpu mewn unrhyw ffordd, rydym wir yn ei werthfawrogi ag yn edrych ‘mlaen i ddechrau trefnu un flwyddyn nesaf!
Dolen Just Giving: https://www.justgiving.com/crowdfunding/taithtractoraucffipenmynydd?utm_term=xZmgNV35P