Dyma lun o ddosbarth Cymraeg Canolfan Esceifiog Gaerwen, Ynys Môn yn eu parti Nadolig. Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae’r dosbarth wedi bod yn trefnu’r parti Nadolig – maen nhw wedi bod yn brysur iawn rhwng llunio e-bost yn gofyn am ganiatâd y ganolfan, i boster yn marchnata, neges yn gofyn am roddion yn y gymuned a threfnu pwy sy’n dod â be efo nhw i fwyta ac yfed. Roedd pob tasg yn gyfle gwych i ymarfer Cymraeg, unai ar lafar neu yn ysgrifenedig. Daeth dosbarth Cymraeg arall o Lanbedrgoch atom ni i fwynhau’r parti ac ymarfer Cymraeg. Un o’r tasgau ymarfer oedd hel rhoddion ar gyfer raffl ar ddiwedd y parti ac mae’r criw wedi hel £50 tuag at Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026.
Cawsom hwyl a bwrlwm Nadoligaidd a phawb yn mwynhau sgwrsio yn Gymraeg. Roedd digon o fwyd yn y parti, siocled poeth, mins peis, gêm o sgrabl Cymraeg a chyfle i glywed jôcs Cymraeg Nadoligaidd – bore gwych! Da iawn chi!