Pob dydd Llun dan ni’n dysgu Cymraeg yn y Ganolfan yn Llanbedrgoch efo ein tiwtor Audra Roberts. Eleni dan ni wedi dechrau’r cwrs Sylfaen. Heddiw dan ni wedi bod yn siarad am y Nadolig. Dyma be oedd gynnon ni i ddeud:
- Sue dw i,
Dw i’n licio mynd i farchnad Nadolig a gwrando ar garolau. Fy hoff beth ydy treulio amser efo fy nheulu i. Hefyd dw i’n licio tynnu cracyrs a gwisgo het Nadolig!
- Ronnie dw i,
Dw i’n licio y goeden Nadolig a goleuadau ar y tŷ ac yn yr ardd. Dw i isio treulio amser efo’r teulu. Dw i’n licio gweld ffilm Nadolig efo tân coed a wisgi bach! Dw i ddim yn licio sbrowts a saws bara!
- Helen dw i,
Dw i’n dysgu Cymraeg yn Llanbedrgoch. Dw i’n licio ymweld â’r teulu a coginio cinio Nadolig i bawb. Dw i isio treulio amser efo fy chwaer a fy mab eleni. Dw i wrth fy modd yn chwarae gemau bwrdd efo’r teulu. Fy hoff beth ydy mynd am dro ar y traeth yn y gaeaf ac ymlacio o flaen y tân hefyd.
- Eileen dw i,
Dw i’n licio gweld teulu a ffrindiau dros y Nadolig. Dw i isio treulio amser efo John. Mi fydda i’n aros adra dros y Nadolig. Fy hoff beth ydy cinio Nadolig, gwylio teledu ac ymlacio!
- Laraine dw i,
Dw i’n mynd i’r dosbarth Cymraeg yn Llanbedrgoch. Dw i’n mwynhau gwylio’r teledu dros y Nadolig. Dw i isio teithio i Swydd Efrog i weld fy modryb cyn bo hir. Mi fydda i’n gweld fy wyresau dros y Nadolig.
- Nancy dw i,
Fy hoff beth ydy cael fy nheulu efo’i gilydd fwyta cinio Nadolig ac agor anrhegion. Mi fydda i’n cerdded efo’r ci a’r teulu yn y prynhawn ar ddydd Nadolig.
- Bruce dw i,
Dw i’n dysgu Cymraeg yn Llanbedrgoch. Dw i’n licio gweld fy nheulu i a bwyta cinio Nadolig. Fy hoff beth ydy ymlacio ar ôl swper ger y tân.
- Audra dw i,
Dw i’n licio agor anrhegion efo’r teulu yn y bore. Dw i wrth fy modd efo sbrowts a tatws rhost, ond dw i ddim yn licio saws bara! Am wyth o’r gloch mi fydda i’n cael teisen Nadolig ac yn gwylio “Gavin a Stacey”!
Be dach chi’n licio neud dros y Nadolig?