Gwartheg Môn yn llwyddo yn Llanelwedd

Daeth nifer o ffermwyr Môn i’r brig yn adrannau bîff Ffair Aeaf Cymru

gan Gareth Jones
TJJanice Jones

Tecwyn Jones gyda ‘Twighlight’ Prif Bencampwr y Gwartheg.

RhOJane Bown

Rhys Owen gyda ‘Deian’ Pencampwr y Gwartheg Ifanc.

AHRJane Bown

Aled Hughes Roberts gyda ‘Charlie’ ei fustach buddugol.

WP-1Jane Bown

Teulu Williams, Penrhyn Llanfwrog, a gipiodd wobr gyntaf gyda’u heffer, ‘Lw Lw’.

TP-1Jane Bown

Tony Ponsonby gyda’i heffer, ‘Mooodonna’.

Cafodd nifer o ffermwyr bîff yr Ynys lwyddiannau nodedig yn adrannau’r gwartheg yn Ffair Aeaf Cymru, 25-26 Tachwedd.

Mae’n debyg mai ennill prif bencampwriaeth yr adrannau gwartheg bîff yw breuddwyd pob cystadleuydd sy’n dangos eu bustych a’u heffrod yn y Ffair Aeaf, a dyna fu hanes Tecwyn Jones a’r teulu, Caergwrli, Llantrisant. Ar ôl cael y wobr gyntaf yn y dosbarth ar gyfer heffrod o unrhyw frîd, wedi’u geni, eu magu a’u porthi gartref ar fferm y dangoswr, aeth ‘Twighlight’ yr heffer ymlaen i ennill pencampwriaeth yr heffrod a threchu pencampwr y bustych a dod yn brif bencampwr gwartheg bîff y sioe.

Gwerthwyd y pencampwr yn yr arwerthiant ar brynhawn Mawrth y sioe, a’r prynwr oedd Arwyn Morgans o fusnes Morgans Family Butchers, Llanfair ym Muallt (dafliad carreg o faes y sioe). Gwerthwyd yr heffer am £8,500, gan ragori ar y pris a dalwyd am bencampwr 2023 (£7,000).

Nid dyma’r unig bencampwriaeth a ddaeth yn ôl i Fôn.  Ceir adrannau arbennig yn y Ffair Aeaf i wartheg bîff ifanc (heffrod a bustych), yn pwyso hyd at 425kg yn fyw. Enillwyd pencampwriaeth y bustych ifanc gan Rhys Owen,  Maenhir, Llannerchymedd, yn dangos bustach o frîd cyfandirol o’r enw ‘Deian’. Yn adran yr heffrod, cipiodd Tecwyn Jones a’r teulu bencampwriaeth arall, yn dangos heffer gyfandirol o’r enw ‘Bella’. Yna, cafodd ‘Deian’ a ‘Bella’ gyfle i ymrysona am brif bencampwriaeth y gwartheg ifanc, a ‘Deian’ wnaeth gipio’r anrhydedd honno.

Yn ogystal â’r pencampwriaethau uchod, daeth sawl gwobr gyntaf arall yn ôl i Fôn yn adrannau’r gwartheg.

Enillwyr yr adran i heffrod wedi’u cenhedlu gan darw Charolais oedd Tony a Iona Ponsonby a’r teulu, Bodsuran, Carmel, Llannerchymedd. ‘Mooodonna’ oedd enw eu heffer fuddugol.

Yn adran yr heffrod wedi’u cenhedlu gan darw Limousin, cipiwyd y wobr gyntaf gan Wyn a Gwen Williams a’r teulu, Penrhyn, Llanfwrog, yn dangos heffer o’r enw ‘Lw Lw’.

Yna, yn yr adran i fustych wedi’u cenhedlu gan darw Charolais,  dyfarnwyd y cerdyn coch i Aled Hughes Roberts, Garnedd Fawr, Star. ‘Charlie’ oedd enw’r bustach hwn.

Dweud eich dweud